Ewch i’r prif gynnwys

Llunio systemau bwyd mwy gwydn a chyfiawn: gwersi o Bandemig COVID-19.

Dydd Iau, 1 October 2020
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Vegetable basket

Mae pandemig COVID-19 wedi amlygu gwendidau yn systemau bwyd y DU, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i arloesi a thrawsffurfio. Yn y seminar hwn, byddwn yn awgrymu sut gall systemau bwyd ymdopi’n well ag argyfyngau yn y dyfodol a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y pandemig.

Byddwn yn rhannu mewnwelediad o ymchwil Gymreig sydd wedi edrych ar sut mae cynhyrchwyr, cwsmeriaid a threfnwyr cymunedol wedi profi’r argyfwng ac ymateb iddo. Bydd hyn yn amlygu camau gweithredu sy'n rhagweld sut mae modd cyflawni newidiadau go iawn i systemau bwyd, a'r gefnogaeth fydd ei hangen i alluogi'r trawsnewidiadau hyn. Byddwn yn pwysleisio egwyddorion cyfiawnder bwyd sy'n hyrwyddo ymagweddau sy'n canolbwyntio ar bobl, er mwyn osgoi anhyfiawnder.

Rhannwch y digwyddiad hwn