Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast gyda Prof Debbie Foster

Dydd Mercher, 30 Medi 2020
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

A fydd yr arferol newydd yn amgylchedd gwaith sy’n anabledd-gynhwysol?

Mae yna ddatganiad sy’n cylchredeg ar Facebook ar hyn o bryd, sy’n darllen: “Pethau y mae Covid wedi’u profi. 1. Mae’r swydd yr hysbyswyd nad oedd yn bosib ei gyflawni o bell, yn bosib ei gyflawni o bell. 2. Gallai llawer o weithwyr anabl fod wedi bod yn gweithio adref ond nid oedd y corfforaethau eisiau iddynt wneud hynny.

Bydd y sesiwn hwn yn ceisio archwilio pam, cyn bygythiad Covid, fod cyflogwyr yn amharod i hwyluso gweithio adref fel addasiad cyffredin a rhesymol y gofynnwyd amdano gan weithwyr anabl. Bydd yn tynnu ar ganfyddiadau arolwg a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf ac Awst 2020, mewn partneriaeth â Chymdeithas y Gyfraith, Cymru a Lloegr. Gofynnwyd i weithwyr proffesiynol cyfreithiol anabl am eu profiadau o weithio yn ystod, ac wrth ddod allan o’r, cyfnod o fod dan gyfyngiadau. Yn dilyn hyn, bydd yr hyn sydd angen i sefydliadau ei ystyried er mwyn adeiladu gweithleoedd sy’n anabledd- gynhwysol yn y dyfodol, yn cael ei drafod ymhellach, gan gynnwys sut y gellir harneisio pobl anabl, nifer ohonynt oedd ag arbenigedd mewn gweithio o bell cyn y cyfnod o gaethiwo.

Bydd Debbie Foster (Athro mewn Cysylltiadau Cyflogaeth ac Amrywiaeth) a Natasha Hirst (Ymchwilydd Anabledd Annibynnol), yn agor y sesiwn. Byddant yn darparu ychydig o gefndir i’r arolwg Covid-19 diweddar, a gynhaliwyd yn dilyn cyhoeddi adroddiad ym Mis Ionawr 2020: : ‘Legally Disabled?: The Career Experiences of Disabled People Working in the Legal Profession’ (gweler: www.legallydisabled.com).

Rhoddodd hyn sylw i bobl anabl talentog ac uchelgeisiol, a’r arferion gwaith hen ffasiwn oedd yn rhwystro eu dilyniant. Dewiswyd ymchwil i’w ariannu gan Anabledd Cymru, a oedd hefyd yn bartneriaeth unigryw rhwng academyddion Prifysgol Caerdydd a’r grŵp sy’n cynrychioli cyfreithwyr anabl o fewn Cymdeithas y Gyfraith, a fydd hefyd yn cyfrannu at y sesiwn.

Bydd cysylltiadau ac adnoddau ychwanegol a ddatblygwyd yn ystod y prosiect yn cael eu cyfeirio yn ystod y sesiwn, gan gynnwys adroddiadau ac argymhellion ar ddatblygu mwy o arferion gwaith sy’n anabledd-gynhwysol, yn ogystal â chyfweliadau proffil personol â gweithwyr proffesiynol anabl, a gafodd eu creu cronfeydd Gwerth Gyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education