Ewch i’r prif gynnwys

Argyfwng i’w Gofio: safbwyntiau trawswladol ar elfennau cyhoeddus coffadwriaethol

Dydd Mercher, 7 October 2020
Calendar 14:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Historical items

Digwyddiad bord gron ar-lein hygyrch i’r cyhoedd lle bydd deialog gydag arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd a’r tu hwnt, yng ngofal thema ymchwil Hanes a Threftadaeth, sy’n rhan o thema ymchwil Argyfwng a Diwylliant yr Ysgol Ieithoedd Modern Gyfan.

Ymhlith y siaradwyr bydd Cynghorydd Daniel De’Ath (Caerdydd), Dr Heather Cateau (Prifysgol India’r Gorllewin); Dr Thomas Leahy (Prifysgol Caerdydd); yr Athro Sven Saaler (Prifysgol Sophia); yr Athro David Clarke (Prifysgol Caerdydd).

Gwthiodd protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys yr haf yma fater cofebau dadleuol i’r parth cyhoeddus. Mae cael gwared ar gerfluniau yn y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a gwlad Belg wedi ennyn trafodaeth eang ynghylch coffadwriaeth gyhoeddus: Beth yw rôl cofebau? Pwy a beth dylen nhw goffáu? Beth yw dyfodol gosod elfennau coffadwriaethol?

Mae’r ford gron hon yn mabwysiadu dull trawswladol o ymdrin â chwestiynau o’r fath. Gyda deialog rhwng academyddion sy’n arbenigo mewn astudio cof y cyhoedd ar draws ystod o amserau a lleoedd, byddwn ni’n trafod sut mae agweddau’r cyhoedd wedi ffurfio’r math yma o goffadwriaeth gyhoeddus.

Wedi'i safoni gan yr Athro Claire Gorrara.

Mae'r Cynghorydd Daniel De'Ath yn gynghorydd ward Plasnewydd yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd, ac ar hyn o bryd fe yw Arglwydd Faer Dinas Caerdydd.  Mae wedi bod yn Aelod Cabinet dros y Blynyddoedd Cynnar, Plant a Theuluoedd, ac yn Aelod Cabinet dros Ddiogelwch, Ymgysylltu a Democratiaeth. Cyn ei yrfa wleidyddol, bu'n gweithio i Amgueddfa Cymru, ac yn ymchwilydd i Lywodraeth Cymru. Bydd y Cynghorydd De'Ath yn cymryd rhan yn rhinwedd ei swydd fel cynghorydd ward.

Mae Dr Heather Cateau yn uwch ddarlithydd yn Hanes y Caribî ac yn Ddeon ar Gyfadran y Dyniaethau ac Addysg ym Mhrifysgol India’r Gorllewin, St Augustine. Hi hefyd yw Llywydd Cymdeithas Haneswyr y Caribî. Ymhlith gweithiau eraill, mae hi’n gyd-olygydd ar Beyond Tradition: Reinterpreting the Caribbean Historical Experience.

Mae Dr Thomas Leahy yn ddarlithydd hanes cyfoes a gwleidyddiaeth Prydain ac Iwerddon yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n ymchwilio i’r gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon a gweriniaetholdeb Gwyddelig. Cyhoeddwyd ei lyfr, The Intelligence War Against the IRA, yn gynharach eleni gan Cambridge University Press. Mae hefyd wedi ysgrifennu ar 'The Politics of Troubles Memories in the Republic of Ireland and Northern Ireland'.

Mae Sven Saaler yn athro ym maes hanes modern Japan ac yn Gyfarwyddwr ar y Rhaglen i Raddedigion mewn Astudiaethau Byd-eang (GPGS) ym Mhrifysgol Sophia, Tokyo. Mae wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ar gerfluniau cyhoeddus yn Japan ers blynyddoedd lawer. Mae ei waith, Men in Metal: A Topography of Public Bronze Statuary in Modern Japan newydd gael ei gyhoeddi gan Brill.

Mae David Clarke yn athro Astudiaethau Almaeneg modern yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, lle mae’n ymchwilio i wleidyddiaeth y cof yn yr Almaen ac Ewrop. Roedd yn rhan o brosiect UNREST (Unsettling, Remembering and Social Cohesion in Transnational Europe), a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, ac ef yw awdur Constructions of Victimhood: Remembering the Victims of State Socialism in Germany (Palgrave, 2019).

Diwylliannau Argyfwng

Noda llefarydd nofel ôl-Brexit Ali Smith Autumn (2016) wrth drafod y mudiad cyfoes: ‘It was the worst of times, it was the worst of times. Again.’ Yma, mae Smith yn mynegi nid yn unig y synnwyr bod y gorffennol diweddar wedi bod yn llawn argyfyngau di-ddiwedd (o argyfwng bancio 2007-2008 i bandemig presennol Covid-19), ond hefyd (gan gyfeirio at Dickens) yn cydnabod mai dim ond drwy gofio'r gorffennol diweddar iawn mae modd deall ein sefyllfa argyfyngus bresennol fel un newydd.

Os yw Smith yn gofyn i ni gael ychydig o bersbectif, gall fod hefyd yn wahoddiad i archwilio ein hymateb i'r argyfwng. Yn wreiddiol yn derm a ddefnyddiwyd mewn meddygaeth i nodi trobwynt clefyd, oedd yn arwain at wellhad neu farwolaeth, yn ei wraidd Groegaidd mae'r gair yn cynnwys y ferf krinein, sy'n golygu beirniadu neu wahaniaethu. Felly, mae argyfwng hefyd yn fater o wneud penderfyniad. Fel gyda phandemig presennol Covid, gall ysgogi newidiadau radical yn yr un modd ag y mae'n awgrymu diwygiad terfynol. All 'yr adegau gwaethaf' arwain at 'yr adegau gorau'? A sut mae'r argyfwng yn ein helpu i ddychmygu'r opsiynau eraill hynny?

Yn ystod blwyddyn academaidd 2020-2021, bydd yr Ysgol Ieithoedd Modern yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau, fydd yn cael ei harwain gan dair thema ymchwil, sy'n mynd i'r afael â'n cysyniad o argyfwng, a'n hymatebion i hynny mewn cyd-destun cyfoes a hanesyddol. Bydd y digwyddiadau'n gofyn sut caiff ein ymdeimlad o argyfwng a'i bosibiliadau eu cyfleu mewn ystod o gyfryngau a disgyrsiau. Bydd pob digwyddiad ar-lein ac yn rhad am ddim. Bydd angen cofrestru, a bydd recordiadau ar gael ar sianel YouTube yr Ysgol.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 23 Medi i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Cofnodi Digwyddiad

Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.

Rhannwch y digwyddiad hwn