Arthritis: mae poen unigolyn angen triniaeth gyfannol a phersonol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Ymunwch â’r Athro Simon Jones a’r Athro Ernest Choy wrth iddynt drafod eu hymchwil i sut mae cleifion â’r un diagnosis o arthritis yn dangos gwahaniaethau sylfaenol yn eu symptomau a’u hymateb i driniaeth. Os gallwn ddeall beth sy’n achosi llid cymalau yn well, a rhagweld sut y bydd yn datblygu, gallwn wella diagnosis unigol cleifion, a dod o hyd i’r triniaethau mwyaf addas ar eu cyfer nhw.
Ond nid yw’r ymchwil yn gorffen fel hynny. Yng Nghaerdydd rydym hefyd yn edrych ar yr effaith ehangach ar les y cleifion. Rydym yn deall yr effeithiau mae arthritis yn eu cael ar risg cardiofasgwlaidd, blinder meddyliol a chorfforol, cwsg, newid o ran hwyl ac iselder ymhlith cleifion. Daw’r Athro Jones a’r Athro Choy ag ymagweddau newydd i ddeall effaith ehangach byw gydag arthritis ac maent yn gweithio’n agos gyda seicolegwyr, seiciatryddion, niwrowyddonwyr a genetegwyr. Eu nod yw cyflwyno budd i’r cleifion dros y tymor hir drwy wella sut mae cleifion yn rheoli’r cyflwr o ddydd i ddydd, a chynyddu’r siawns o wellhad.