Gweminar: Cenedlaethau'r Dyfodol, prifysgolion a COVID-19
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae’r weminar hon yn dod â chynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, NUS Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ynghyd i drafod effaith COVID-19 ar genedlaethau’r dyfodol, a sut y gall prifysgolion addasu eu cenhadaeth ddinesig i gefnogi cymuned ehangach yng Nghymru ar ôl COVID. Mae’r digwyddiad hwn hefyd yn nodi bod memorandwm o ddealltwriaeth yn cael ei lofnodi yn swyddogol rhwng Prifysgol Caerdydd a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Ar ôl sylwadau agoriadol cryno gan yr Athro Colin Riordan (Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd) a Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol dros Gymru), bydd trafodaeth a sesiwn holi ac ateb ar y cwestiwn “Sut gallwn atal cenedlaethau’r dyfodol rhag talu’r pris am COVID-19?” gyda’r panel canlynol:
- Jeremy Miles MS (Cwnsler Cyffredinol, Llywodraeth Cymru)
- Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol)
- Becky Ricketts (Llywydd, NUS Cymru)
- Yr Athro Calvin Jones (Ddirprwy Ddeon, Ysgol Fusnes Caerdydd).