Ewch i’r prif gynnwys

I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr (Byw!) - Amrywiaeth yn y Diwydiannau Creadigol – Symud y Tu Hwnt i Docenistiaeth

Dydd Iau, 6 Awst 2020
Calendar 17:30-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

For Alumni, By Alumni (Live!) - Diversity in the Creative Industries – Moving Beyond Tokenism

Ymunwch â ni ar gyfer y drafodaeth hon rhwng Pat Younge (BSc 1987) a Joycelyn Longdon (BSc 2019), a arweinir gan gynfyfyrwyr, wrth iddynt drafod yr angen am fwy o amrywiaeth yn y diwydiannau creadigol. Hwn yw'r digwyddiad cyntaf mewn cyfres newydd lle rydym yn trosglwyddo'r gwe-gamerâu i'n cynfyfyrwyr, ac yn gadael iddynt drafod pynciau sydd o ddiddordeb i gymuned Prifysgol Caerdydd. 

Pat yw rheolwr gyfarwyddwr CARDIFF PRODUCTIONS LIMITED, a SUGAR FILMS ltd. Cyn hynny, Pat oedd prif swyddog creadigol y BBC ac ar y pryd fe oedd gweithredwr du uchaf y sefydliad. Yn ôl yn yr 80au pan oedd Pat yn astudio Daeareg yng Nghaerdydd, llwyddodd hefyd i gael hyd i amser i fod yn Llywydd ar yr Undeb Athletau ac Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â bod yn aelod o'r Tîm Cyntaf. 

Mae Joycelyn yn farchnatwr llawrydd a sylfaenydd BLACKONBLACK, sef asiantaeth greadigol sy’n hyrwyddo amrywiaeth yn y diwydiannau creadigol, gan gefnogi pobl greadigol o liw. Ar ôl gorffen gradd mewn Astroffiseg, mae bellach yn troi ei sylw at PhD yng Nghaergrawnt, ble y bydd yn edrych ar y Defnydd o AI ar Newid Hinsawdd. Hefyd, yn ddiweddar mae wedi lansio platfform creadigol newydd, Climate in Colour, er mwyn gwneud sgyrsiau am hinsawdd yn fwy hygyrch, amrywiol ac addysgiadol. 

Rydym yn gwybod bod ein cynfyfyrwyr yn griw gwybodus, creadigol a diddorol, felly rydym wedi penderfynu trosglwyddo’r awenau iddyn nhw yn ein cyfres newydd o ddigwyddiadau 'I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr (Byw!)'  

Rydym yn chwilio am gyfranogwyr ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau 30 munud o hyd, i rannu eu barn, arbenigedd, diddordebau a phrofiadau. Nid oes thema benodol, ond rydym yn chwilio am bynciau a fydd yn ysbrydoli, ennyn a thanio chwilfrydedd ymysg eich cyd-gynfyfyrwyr. 

Rhannwch y digwyddiad hwn