Ewch i’r prif gynnwys

Codi stŵr: dadleuon ynghylch datblygiadau ffermio da byw’n ddwys yn y DU gan Alison Caffyn

Dydd Iau, 4 Mehefin 2020
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Arbedwch i'ch calendr

Mae galw cynyddol cymdeithas am gyw iâr rhad wedi arwain at grynodiadau o unedau dofednod dwys mewn rhannau penodol o'r DU. Mae'r ymchwil wedi dilyn y dadleuon sy'n dwysáu ynghylch unedau cynyddol o dda byw a'u heffaith ar gymunedau ac amgylcheddau lleol yn Swydd Henffordd a Swydd Amwythig.

Mae'r sector ffermio yn fframio'r datblygiadau fel ffermio cyfoes, effeithiol; sy'n creu protein fforddiadwy, iach y gellir ei olrhain; ac mae gwrthwynebwyr yn cael eu labelu’n fewnfudwyr NIMBY i gefn gwlad. Mae gwrthwynebwyr yn gandryll gyda'r ffyrdd mae'r broses cynllunio yn canolbwyntio ar dystiolaeth a gynhyrchwyd gan fodelau blwch-du. Mae’r rhain yn dangos lefelau derbyniol o lygredd bob tro, gan eu gwthio nhw â'u pryderon i'r ymylon.

Bydd Alison yn cyflwyno canlyniadau ei hymchwil sydd wedi edrych ar sut mae gwybodaeth yn dod ynghyd o fewn y broses gynllunio, a sut yr ysgogwyd 'cyhoedd newydd' o grwpiau ymgyrchu lleol. Mae hi'n olrhain sut mae'r dadlau a'r herio yn tynnu sylw at effeithiau cronnol degawdau o amaethu dwys ac yn dechrau dwyn sefydliadau a phrosesau democrataidd i gyfrif.

Rhannwch y digwyddiad hwn