Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd - Sesiwn Hysbysu dros Frecwast gyda Prof Andy Henley a yr FSB

Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2020
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

Ymunwch a’r Athro Andrew Henley i archwilio’r hyn yr ydym yn gwybod am effaith y pandemig ar fusnesau bach, a micro-fusnesau yng Nghymru a thrwy’r DU, y camau brys sydd eisoes ar waith, a’r risgiau difrifol sy’n parhau. Bydd yn asesu’r heriau sy’n wynebu busnesau a pherchnogion busnes, a sut mae’r rhain wedi datblygu, y cyfleoedd i fusnesau oroesi ac adeiladu gwytnwch, yn ogystal â’r rhagolygon i fusnesau fanteisio ar y rhain.Yn ymuno gydag Andrew fydd Ffederasiwn Busnesau Bach, Cymru, bydd yn tynnu sylw at ei adroddiad diweddar Ailagor Cymru, gan gynnwys materion a nodwyd yn yr adroddiad sy’n effeithio ar fusnesau bach wrth i ni ddod allan o’r adeg dan glo, y gefnogaeth ymarferol sydd ei hangen ar fusnesau ar yr adeg dyngedfennol hon, a chyfleoedd i fusnesau bach.

Byddwn yn danfon manylion ar gyfer ymuno a’r sesiwn yn agosach at yr achlysir.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education