Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglennu dros Amrywiaeth mewn Digwyddiadau Celfyddydol a Diwylliannol: Safbwynt Personol a Phroffesiynol

Dydd Iau, 19 Mawrth 2020
Calendar 17:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi ei ganslo.

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Picturing Others stock image

Darlith gyhoeddus gyda’r siaradwr gwadd, Richard Foster (Cyfarwyddwr Cyswllt Gŵyl Celfyddydau Comig Ryngwladol y Llynnoedd) yn rhan o thema ymchwil Darlunio Eraill yn yr Ysgol.

Crynodeb

Darlith gyhoeddus gyda’r siaradwr gwadd, Richard Foster (Cyfarwyddwr Cyswllt Gŵyl Celfyddydau Comig Ryngwladol y Llynnoedd) yn rhan o thema ymchwil Darlunio Eraill yn yr Ysgol. Bydd Richard Foster yn cynnig safbwynt personol ar heriau a manteision cadarnhaol datblygu rhaglenni diwylliannol sy’n cynnwys cyfranogwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd ac yn ymgysylltu â nhw.

Mae Richard wedi arwain amrywiaeth o sefydliadau diwylliannol sy’n amrywio o leoliadau celfyddydau perfformio masnachol a chonsortia diwylliannol i wyliau a lleoliadau celfyddydau cyfunol a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Bydd ei gyflwyniad yn ystyried sut mae gofynion penodol y sefydliadau amrywiol hyn yn llywio eu rhaglenni a’u prosiectau sy’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol. Bywgraffiad Mae Richard Foster wedi cael hyfforddiant fel Hanesydd Celfyddydol ym Mhrifysgol Manceinion ac aeth yn ei flaen wedi hynny i gyflawni diploma ôl-raddedig yn Oriel Gelf ac Astudiaethau Amgueddfa yn yr un brifysgol. Ar ôl sawl blwyddyn fel curadur, yn gweithio i amgueddfeydd rhanbarthol ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Lloegr, daeth Richard yn Rheolwr Cyffredinol dros atyniad i ymwelwyr a theatr broffesiynol yn y Lake District, gan ddatblygu gwybodaeth werthfawr am y celfyddydau perfformio a rheoli atyniadau yn y sector preifat. Am naw mlynedd, Richard Foster oedd Prif Swyddog Gweithredol y Brewery Arts Centre, canolfan ddiwylliannol ar gyfer celfyddydau cymysg, gan weithio ar draws pum ffurf o gelfyddyd, ond gydag arbenigeddau mewn cerddoriaeth, theatr a’r celfyddydau gweledol a gyda rhaglen gyfranogol fawr i oedolion a phobl ifanc. Goruchwyliodd Richard gynnydd mawr o ran ystod ac amrywiaeth rhaglen yr arddangosfa, a chynnydd mewn ymwelwyr i 250,000 y flwyddyn. Hefyd, sefydlodd Richard y Brewery fel partner sefydlol i Lakes Culture, sefydliad sydd am hyrwyddo cynnig diwylliannol Cumbria i ymwelwyr a Gŵyl Celfyddydau Comig Ryngwladol y Llynnoedd. Yn 2019, dechreuodd Richard ar yrfa lawrydd ac mae wedi gweithio i gleientiaid sy’n cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol y Lake District a Gŵyl Full of Noises. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cyswllt i Ŵyl Celfyddydau Comig Ryngwladol y Llynnoedd, lle mae’n arwain y rhaglen academaidd (Comics Up Close), gwaith datblygu prosiectau rhyngwladol, ymgyrchoedd codi arian a phrosiect Comics Hothouse. Mae hefyd yn arwain rhaglen arddangos yr ŵyl ac fe guradodd yr arddangosfa nodedig, Let’s Go Camping with Tom of Finland, mewn cysylltiad â Sefydliad Tom of Finland. Mae Richard hefyd yn Gadeirydd i Rwydwaith Celfyddydau a Diwylliant Cumbria, ac yn gwneud printiau, gan arbenigo mewn ysgythru sychbwynt, gydag arddangosfeydd a gwobrau niferus i’w enw (www.rfetchings.co.uk)

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb.

Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 12 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Rhaglennu dros Amrywiaeth mewn Digwyddiadau Celfyddydol a Diwylliannol: Safbwynt Personol a Phroffesiynol ar Google Maps
Ystafell 2.18, Ysgol Ieithoedd Modern
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn