Ewch i’r prif gynnwys

Brwydro a'r Negyddol: Trawma fel Argyfwng Iaith yn y Nofel Hanesyddol Gyfoes

Dydd Iau, 28 Mai 2020
Calendar 17:00-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Citizens research theme

Seminar ymchwil gyda'r siaradwr gwadd Dr Emanuela Piga (Prifysgol Bologna), yn rhan o themâu ymchwil Dinasyddion a Chyfalafiaeth, Argyfwng ac Ideoleg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Crynodeb Mae'r seminar hwn yn canolbwyntio ar adroddiadau am drais a gwrthwynebu hanesyddol mewn casgliad detholedig o nofelau cyfoes am wrthdaro, o'r Eidal, Ffrainc a Lloegr. Dadleuir bod naratif o wrthdaro wrth wraidd nofelau Wu Ming, Helena Janeczek ac Andrea Levy, tra bod y nofelau gan Jonathan Littell, Martin Amis a Laurent Mauvignier yn canolbwyntio ar gynrychioli’r negyddol, fel y drwg sydd naill ai'n cael ei weithredu, neu ei ddioddef a’i oddef. Bydd y seminar felly'n ymwneud â myfyrdodau ar fywydau'r sawl sydd wedi’u heffeithio. Mae'r naratif polyffonig ac aml-bersbectif sy'n nodweddu’r “nofelau am wrthdaro a'r negyddol” yn cael ei ddehongli ar y croestoriad rhwng llenyddiaeth a hanesyddiaeth, sy'n gysylltiedig drwy themâu gwrth-lywodraethol cyffredin. Cyfuniad o arferion o hanesion a rennir yw adfer atgofion coll a bywydau'r anghenus, darllen yr archif yn feirniadol, a hanes yr anymwybod gwleidyddol. Mae ysgrifennu emosiynau trawmatig yn llenyddol, ar y llaw arall, yn mynegi'r angen i ddatrys argyfwng iaith a chynrychiolaeth a achosir gan y profiad o drawma. Dangosir sut mae’r rhan fwyaf o'r nofelau hyn sydd wedi'u gosod yng nghyd-destunau alltudiaeth, trefedigaeth, a'r gwersyll yn ymwneud â cholled, neu'r problemau a achosir gan gyfraith dinasyddiaeth.

Bywgraffiad

Emanuela Piga Bruni, Prifysgol Bologna (Athro Gwadd mewn Llenyddiaeth Gymharol yn y Royal Holloway, Llundain ar hyn o bryd). Mae ei chyhoeddiadau diweddar yn cynnwys La lotta e il negativo. Sul romanzo storico contemporaneo, Mimesis, Milano 2018, a Romanzo e serie TV. Critica sintomatica dei finali di puntata, Pacini, Pisa 2018.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 12 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Brwydro a'r Negyddol: Trawma fel Argyfwng Iaith yn y Nofel Hanesyddol Gyfoes ar Google Maps
Ystafell 2.18, Ysgol Ieithoedd Modern
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn