Ewch i’r prif gynnwys

Arddangosfa Cloddio Gwaed Morgannwg yn ymweld ag Addysg Barhaus a Phroffesiynol ym mis Mawrth

Dydd Llun, 23 Mawrth 2020
Calendar 09:00-12:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A protest holding a sign warning about Pneumoconiosis

Y gwanwyn hwn, rydym yn croesawu arddangosfa Gwaed Morgannwg sydd ar fenthyg gan Archifau Morgannwg.  Mae’r arddangosfa’n archwilio cofnodion iechyd a lles o ledled meysydd glo de Cymru. Mae’r cofnodion yn cynnwys amrywiaeth o eitemau o’r diwydiant glo, gyda phapurau ar bynciau fel band y lofa, baddondai pen pwll, trychinebau yn y pwll a chyflogau.  Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys Sefydliadau’r Glowyr, sef canolbwynt bywyd addysgiadol, diwylliannol a chymdeithasol cymunedau’r maes glo. Rydym yn credu bydd y pwnc hwn o ddiddordeb arbennig i’n cydweithwyr a’n myfyrwyr.

Un o uchafbwyntiau eraill yr arddangosfa yw canllawiau i ddefnyddio’r baddondai pen pwll o’r llawlyfr lles gwreiddiol, sy’n esbonio: Gofynnwch i’ch ‘butty’ olchi eich cefn. Yna golchwch ei gefn yntau. Nid yw’r un gosodiad diweddaraf wedi darganfod ffordd well o olchi cefnau eto.

Bydd yr arddangosfa’n agored i’r cyhoedd yn Ystafell Gyffredin y Myfyrwyr. Mae modd cyrraedd hon drwy ein cyntedd yn Adeilad Addysgu Barhaus a Phroffesiynol o 3 Mawrth tan 24 Mawrth.


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Exploring the Past lecture series