Ewch i’r prif gynnwys

Her i newid – amrywiaeth ryweddol yn STEM

Dydd Gwener, 6 Mawrth 2020
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

International Women's Day logo

Mae grym i eiriau.

'Mae'r hyn rydyn ni'n ei ddweud, sut rydyn ni'n ei ddweud a'r camau rydyn ni'n eu cymryd yn bethau pwerus ac mae'r diffyg cynnydd ar fenywod mewn STEM (pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn rhwystredig: mae'n bryd edrych ar ein geiriau, sut rydyn ni'n eu defnyddio a beth rydyn ni'n ei wneud. Dydw i ddim yn honni bod gen i'r holl atebion ond mae angen i ni ddechrau gwneud pethau mewn ffordd wahanol.' Helen Obee Reardon

Ymunwch â Helen a Rhys fydd yn ystyried rhai atebion heriol ar raddfeydd sefydliadol ac ehangach.

Bydd Marchnad yn Oriel VJ yn dilyn y darlithoedd, fydd yn ystyried cymryd camau ynghylch amrywiaeth ryweddol, gan ganolbwyntio ar Brifysgol Caerdydd.

Helen Obee Reardon

Rydw i wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o fathau o ymgysylltu cyhoeddus a chyfathrebu gwyddoniaeth am dros bymtheng mlynedd, gan weithio i sawl sefydliad yn y sector cyhoeddus. Mae fy ngwaith wedi cynnwys amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys ysgolion, cymunedau o ddiddordeb a lle, cyrff llywodraethol, academyddion a busnesau. Ar hyn o bryd, rwy’n rhan o’r Tîm Rhyngwyneb Busnes, gan gysylltu ymchwil yr Ysgol Peirianneg â diwydiant, llunwyr polisïau a sefydliadau eraill.

Rhys Phillips

Gwyddonydd Electromagneteg gydag Airbus yn Toulouse ydw i, ac roeddwn i’n rhan o’r tîm oedd yn datblygu model peirianyddol er mwyn mynd i’r afael â diffyg amrywiaeth ryweddol yn y cwmni. Mae gennyf radd mewn Mathemateg a Ffiseg o Brifysgol Caerdydd, ac rwy’n Ddarlithydd Anrhydeddus i’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Cyflwynydd gwyddoniaeth arobryn ydw i, ac rydw i wedi rhoi cyflwyniadau dros y byd i gyd, gan gynnwys sioeau jazz a gwyddoniaeth ar y radio.

Cysylltwch â’r trefnydd os oes gennych unrhyw ofynion o ran hygyrchedd.

Gweld Her i newid – amrywiaeth ryweddol yn STEM ar Google Maps
Council Chamber
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn