Ewch i’r prif gynnwys

Sesiwn Hysbysu dros Frecwast - Natur Sylfaenol Ynni

Dydd Iau, 27 Chwefror 2020
Calendar 08:00-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae’n ymddangos yn fwyfwy amlwg bod uchelgais y DU I gyflawni Net Zero yn newid popeth. Bydd angen i bob sector – darparwyr gwasanaeth a nwyddau, cyhoeddus, preifat – ystyried sut y maent yn gwneud pethau, a beth y maent yn gwneud yn y dyfodol. Mae trawsnewid o’r fath yn cynnig her a chyfle. Mae gwaith diweddar prosiect Ail-egnio Cymru yr IWA yn tynnu sylw at sut y gallai ynni adnewyddadwy fod yn gyfle sylweddol i Gymru, gan roi’r cyfle i arwain, a’r buddion a ddaw o flaenoriaethu natur sylfaenol ynni i unrhyw economi.

Bydd y Sesiwn dros Frecwast hwn yn adrodd ar eu canfyddiadau cyffredinol yn ogystal ag ychydig o fanylion y chwe adroddiad a dau bapur gwaith, a ffurfiodd sylwedd y rhaglen waith rhwng 2016 a 2019. Yn gosod y gwaith yn ei gyd-destun, ac yn arwain y drafodaeth, ar yr hyn y gall hyn ei olygu i ddyfodol economaidd Cymru fydd Auriol Miller, Cyfarwyddwr yr IWA, a Hywel Lloyd o Hwyluso’r Dyfodol, ac yn aelod o grŵp llywio Ail-egnio Cymru.

Gweld Sesiwn Hysbysu dros Frecwast - Natur Sylfaenol Ynni ar Google Maps
Ystafell Addysg Weithredol, 3ydd Llawr
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education