Ewch i’r prif gynnwys

Dull Systemig o Berfformio Pensaernïol: Y Cyfryngau Hyperobjective a'r Asiantaeth mewn Prosesau Dylunio Cydweithredol gan Marie Davidova

Dydd Mercher, 12 Chwefror 2020
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bydd y ddarlith yn canolbwyntio ar faes dylunio Dull Systemig o Berfformio Pensaernïol (SAAP) a gwrthrychedd hyper o'i brototeipiau. Mae’r maes yn trafod sut mae dinasoedd yn addasu i'r newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Mae ymchwil gyfredol am ecoleg amgylcheddol yn dangos bod rhywogaethau oedd wedi addasu i dir amaethyddol gannoedd o flynyddoedd yn ôl, erbyn hyn yn addasu ar gyfer bywyd yn y dinasoedd. Mae ein tir amaethyddol mor wenwynig erbyn hyn, oherwydd plaladdwyr ac ati, mae’r amgylchedd adeiledig bellach yn cynnig gwell amodau byw iddynt. Felly, mae angen i'n dinasoedd addasu ar gyfer sefyllfa o'r fath lle mae rhywogaethau’n cyd-fyw. Mae'r ymchwil yn dangos hyn trwy ymyriadau trefol eco-systemig prototeip ar raddfa lawn ac astudiaethau o’u cyd-destunau hanesyddol. Mae’n ystyried y broses o ddylunio a chreu prototeipiau yn ogystal a’u perfformiad mewn amgylchedd ‘bywyd go iawn’. Mae hyn yn ymdrin ag arsylwadau o sut y cynhyrchir codau ar draws yr eco-system fio-dechnolegol a dyfalu eu dyfodol. Mae hyn yn cynnwys cymunedau byw a rhai nad ydyn nhw'n byw, dynol a heb fod yn ddynol. Ymhellach ymlaen, mae’r gwaith yn cyrraedd haen a graddfa fwy trwy ledaenu ei ryseitiau a’i godau paramedrig DIY ar gyfer rhoi prototeipiau a addaswyd yn lleol ar waith ar gyfer cymunedau ledled y byd. Mae SAAP yn gyfuniad o feysydd sy'n seiliedig ar brosesau a gychwynnwyd yn ffurfiol trwy integreiddio Dylunio sy'n Canolbwyntio ar Systemau a Phensaernïaeth sy'n Canolbwyntio ar Berfformiad. Mae'n datblygu methodoleg ac yn cynhyrchu theori trwy ymarfer arbrofol. Mae SAAP yn cynnwys Cyd-ddylunio Traws-ddisgyblaethol Eco-Systemig yn Seiliedig ar Amser sy'n cael ei berfformio gan asiantau biotig ac anfiotig, gan gynnwys pobl. Mae'n perthyn i faes ehangach Dylunio Systemig, gan ystyried eco-system gyffredinol.