Ewch i’r prif gynnwys

”Ni allwn ni fforddio bod yn wyrdd” – profiadau o wendidau ac arloesedd ynni yng nghymoedd de Cymru gan Fiona Shirani

Dydd Gwener, 7 Chwefror 2020
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bydd Fiona yn sôn am rai o’r cyfweliadau hydredol ansoddol y mae hi wedi’u cynnal yng nghymunedau cymoedd de Cymru lle mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu cynllun cynhesu geothermol lleol gan ddefnyddio dŵr o hen weithfeydd glofaol. Yn y cyflwyniad hwn, bydd Fiona yn edrych ar sut mae cysylltiadau’r ardal ag ynni wedi newid dros amser, a bydd yn trafod yr heriau sy’n gysylltiedig â chysylltu pobl sy’n poeni i wahanol raddau am y newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd yng nghyd-destun pwysau bywyd pob dydd mewn cymuned incwm isel.