Ewch i’r prif gynnwys

Dilyniannau wedi eu dosbarthu’n unffurf a gorchuddio setiau dimensiynau uchel; seminar gan Anatoly Zhigljavsky

Dydd Mercher, 12 Chwefror 2020
Calendar 15:10-16:10

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Uniformly distributed sequences and covering of high-dimensional sets

Mae’r seminar yn trafod sawl mater o wahanol bynciau. Yn gyntaf, byddaf yn sôn am ddilyniannau sydd wedi eu dosbarthu’n unffurf a nodweddion gwahanol unffurfiaeth. Yn ail, byddaf yn dadlau, yn wahanol i’r gred gyffredin, nad yw dilyniannau â nodweddion da o ran llenwi gofod yn debyg i ddilyniannau sydd wedi eu dosbarthu’n unffurf, yn enwedig os yw dimensiwn y gofod yn fawr. Byddaf yn treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn trafod gorchuddio ciwb dimensiwn uchel â pheli n a byddaf yn dangos sawl ffenomen annisgwyl sy’n gysylltiedig â phatrymau gorchuddio da. Byddaf hefyd yn sôn am y broblem o ran cwanteiddio, sydd hefyd yn cael ei alw y broblem o ran lleoliad delfrydol ar gyfer cyfleuster.