Ewch i’r prif gynnwys

Mae treialon un garfan yn ben tost: seminar gan Adrian Mander

Dydd Mercher, 29 Ionawr 2020
Calendar 15:10-16:10

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Single arm trials are the bane of my life

Mae’r treial un garfan (single-arm trial) yn ddyluniad syml iawn: mae pawb yn cael triniaeth (ym maes oncoleg yn bennaf) ac yn aros i weld a yw’n gweithio, yn nhermau ymateb deuol. Mae’n cymryd yn ganiataol na fydd y rhai nad ydynt yn cael eu trin yn gwella neu’n cael siawns fach (p0) o wella gyda’r gobaith y bydd y driniaeth yn gwella’r ymateb i’r siawns p1. Un gwelliant i’r dyluniad hwn yw fersiwn ymaddasol lle cynhelir dadansoddiad dros dro ar ôl arsylwi ar ganlyniadau’r cyfranogwyr n1 cyntaf. Nod y dadansoddiad dros dro yw dod â’r treial i ben mor gynnar â phosibl gan nad yw’r driniaeth yn gweithio. Mae’r fersiwn addasol o’r dyluniad treial hwn yn aml yn cael ei galw ‘dyluniad dau gam Simon’ ac efallai mai hwn yw’r dyluniad addasol a ddefnyddir fwyaf aml yn ymarferol. Fodd bynnag, mae canlyniadau adolygiad yn dangos sut y gellir camddefnyddio dyluniad, gyda safon wael o ran adrodd a diffyg cydymffurfiaeth â dyluniad.  Byddaf yn disgrifio’r gwahanol ffyrdd o wella’r dyluniad hwn, megis gwneud llawer o fesurau dros dro, bod yn Bayesaidd, ychwanegu biofarcwyr, a chymharu’r dull hwn â dyluniadau hap. Mae’n bosibl, yn y pen draw, y byddaf yn dod i hoffi’r dyluniad hwn.

Gweld Mae treialon un garfan yn ben tost: seminar gan Adrian Mander ar Google Maps
Room M/0.40
21-23 Senghennydd Road
Cathays
Caerdydd
CF24 4AG

Rhannwch y digwyddiad hwn