Digwyddiad Briffio Etholiad Cyffredinol y DG 2019: Canolfan Llywodraethiant Cymru
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae’n bleser gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd eich gwahodd i'n Digwyddiad Briffio Etholiad Cyffredinol y DG 2019.
A ninnau ar drothwy un o’r etholiadau cyffredinol mwyaf anrhagweladwy yn hanes Cymru, bydd yr Athro Roger Awan-Scully, Jac Larner a'r Athro Laura McAllister yn dadansoddi ac yn amlinellu prif bynciau trafod yr etholiad, yr arolygon barn diweddaraf, a'r goblygiadau penodol o ran Brexit a datganoli.
Bydd arolygon newydd ac unigryw yn cael eu cyhoeddi yn y cyfarfod hysbysu hwn, a’r newyddiadurwr a'r darlledwr Carolyn Hitt fydd yn cadeirio.
Ymunwch â ni i drafod ymhellach ac i asesu'r sefyllfa ddiweddaraf!
Pierhead Street
Cardiff Bay
Cardiff
CF10 4PZ