Ewch i’r prif gynnwys

Hyrwyddo Cysylltiadau Ystyrlon rhwng Tystiolaeth ac Ymarfer

Dydd Iau, 21 Tachwedd 2019
Calendar 13:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

WCPP image

Mae symudedd gwybodaeth yn ymwneud â chysylltu gwaith ymchwilwyr â phenderfynwyr er mwyn helpu i lywio polisïau cyhoeddus ac arferion proffesiynol. Mae’n fwy na dim ond lledaenu ymchwil mewn llif gwybodaeth unffordd. Mae’n ymwneud ag ymgysylltu, cynnwys y defnyddwyr terfynol a chanolbwyntio ar effaith.

Mae’r digwyddiad hwn yn dod ag arbenigwyr ar symudedd gwybodaeth ynghyd i drafod yr hyn y maent wedi’i ddysgu ac enghreifftiau o arferion gorau. Bydd yr Athro Jonathan Sharples yn cyflwyno’r prif anerchiad ynghylch ei waith ar symudedd gwybodaeth yn y Sefydliad Gwaddol Addysg. Bydd yn trafod yr hyn y mae’r Sefydliad wedi’i ddysgu hyd yn hyn ynghylch sut i roi tystiolaeth ar waith ar raddfa, gan gynnwys sut i ymgorffori’r defnydd o dystiolaeth yn y system addysg ehangach a rôl ymarferwyr mewn rhoi tystiolaeth ar waith. Bydd yn amlinellu gwaith diweddar y Sefydliad am weithredu gwybodaeth, ar sail adroddiad o ganllawiau, Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Yna, bydd Jonathan yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel ag academyddion Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) gan gynnwys:

Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, ond mae lleoedd yn brin, felly gofynnwn i chi gofrestru.

Bydd cinio bwffe ar gael ar ddechrau’r digwyddiad, o 1pm.

Ynghylch Jonathan

Cymrawd Ymchwil Athrawol i’r Sefydliad Gwaddol Addysg yw Jonathan, sydd ar secondiad o Goleg Prifysgol Llundain. Mae’n gweithredu fel pont rhwng y byd academaidd a’r sector polisïau, gan ddefnyddio ei brofiad o ddefnyddio ymchwil a’i rhoi ar waith i ddatblygu mentrau cenedlaethol fel Rhwydwaith yr Ysgolion Ymchwil. Mae Jonathan yn gweithio gydag ysgolion ac arweinwyr system ar draws y sector i hyrwyddo ymarfer ar sail tystiolaeth a lledaenu gwybodaeth am ‘beth sy’n gweithio’ mewn addysgu a dysgu.

Cyn hyn, roedd Jonathan yn gweithio i Sefydliad Dyfodol y Meddwl ym Mhrifysgol Rhydychen, lle roedd yn ystyried sut gall dealltwriaeth o ymchwil niwrowyddonol gefnogi arbenigedd athrawon a’u datblygiad proffesiynol.

Gwybodaeth am SPARK

Bydd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) ar gampws arloesedd newydd Prifysgol Caerdydd, ac mae wedi’I ddylunio i sbarduno newid. Bydd y cyfleuster yn denu arweinwyr ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â phartneriaid ymchwil newydd i greu cyfleoedd ar gyfer arloesedd a mentergarwch ar draws rhanbarthau a sectorau amrywiol. Yn hanfodol, bydd yn darparu cyfleuster y gall sefydliadau blaenllaw eraill yn y DU ac yn rhyngwladol ei ddefnyddio, gan arwain at fwy o gydweithio.

Gan adeiladu ar gryfderau ymchwil sydd wedi hen ennill eu plwyf, y syniad o gydgreu sydd wrth wraidd SPARK: pobl yn cydweithio ar draws disgyblaethau ac ar draws ffiniau proffesiynol i astudio rhai o’r problemau mwyaf dybryd rydym yn eu hwynebu, dysgu amdanynt a’u datrys. Un o’i weithgareddau allweddol fydd cynhyrchu prototeipiau o syniadau y gellir eu profi gyda dinasyddion a defnyddwyr.

Gwybodaeth am Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Mae’r Ganolfan, a gaiff ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru, wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n aelod o Rwydwaith What Works y DU.

Mae’r Ganolfan yn cydweithio ag arbenigwyr polisi blaenllaw er mwyn rhoi tystiolaeth o ansawdd uchel a chyngor annibynnol i weinidogion, y gwasanaeth sifil a gwasanaethau cyhoeddus sy’n eu helpu i wella penderfyniadau a chanlyniadau sy’n gysylltiedig â pholisi.

Mae’r Ganolfan hefyd yn gwneud ymchwil i wella dealltwriaeth o’r rôl y gall tystiolaeth ei chwarae wrth helpu i lunio polisïau gwell a darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Gweld Hyrwyddo Cysylltiadau Ystyrlon rhwng Tystiolaeth ac Ymarfer ar Google Maps
Council Chamber
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn