Ewch i’r prif gynnwys

Ystyr 1989 ac ymddangosiad a diflaniad Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen

Dydd Gwener, 29 Tachwedd 2019
Calendar 09:00-19:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

The disappearance of the german democratic republic

**Nodir fod lleoliad y digwyddiad hwn wedi newid i'r Owain Glyndwr, St John St, Church St, Caerdydd, CF10 1GL**

Cynhadledd ryngddisgyblaethol yn ymwneud â Chyfalafiaeth, Ideoleg ac Argyfwng a Llunio Themâu ymchwil eraill yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Derbyniad gwin i ddilyn yng nghyntedd yr Ysgol rhwng 18:00 – 19:00. Bydd arddangosfa yn cyd-fynd â'r gynhadledd a bydd yn cael ei harddangos yng nghyntedd yr Ysgol rhwng 25-29 Tachwedd.

Tri deg mlynedd yn ddiweddarach, mae cwymp mur Berlin dal yn fyw yn y dychymyg gwleidyddol ac yn fwy felly na unrhyw ddigwyddiad arall mewn hanes diweddar. Dyw hyn ddim yn syndod o ystyried yr oedd ‘1989’  yn derfyn mor arwyddocaol â’r Chwyldro Ffrengig yn 1789. Serch hynny, tra bod llawer o waith wedi ei gyhoeddi ar y gadwyn o ddigwyddiadau a arewiniodd at gwymp y Mur a chwymp comwinyddiaeth Sofietaidd, mae ysytyr hanesyddol 1989 yn dal i fod yn destun dadleuon ffyrnig.

Mae rhesymau dilys dros gwestiynu dadansoddiad buddugoliaethus 1989 fel llwyddiant i economeg y farchnad rhydd a democratiaeth ryddfrydol a’r dehongliad sy’n dilyn o hanes dwyrain yr Almaen fel ystafell aros ar gyfer 1989. Mae darlleniadau o’r fath nid yn unig yn cuddio gwreiddiau dwfn systemig y gyflafan eco- economaidd sydd yn datblygu’n araf iawn o flaen ein llygaid; maent hefyd yn cysgodi profiad hanesyddol pwysig oedd yn rhagfynegi cwymp eoconomaidd 2008. Fel  gyda adfywiad gweledigaethau hiraethus am ddyfodol ôl- gyfalafol, mae darlleniadau lleihaol o 1989 ond yn sicrhau parhâd rhesymeg deuaidd y rhyfel Oer ac felly’n disodli opsiynau gwahanol angenrheidiol i reolaeth hunan ddistrywiol cymhellion distaw yr economig.

Mae’r gynhadledd, un  o gyfres o ddiwgywddiadau sydd yn nodi ugain mlynedd 1989-2019 yng Nghaerdydd yn yr Hydref yn bwriadu ehangu ein dealltwriaeth o arwyddocâd hanesyddol byd-eang 1989 a phrofiad hanesyddol penodol Gweriniaeth ddemocratig yr Almaen. Rydym yn croesawi cyfraniadau gwreiddiol o bob maes ac o bob gogwydd- deallusol, gwleidyddol, artistig – sydd yn ymchwilio i ystyr 1989 a sydd yn cychwyn o’r llwybrau cyfarwydd sydd wedi eu troedio’n barod.

Am fanylion pellach, gan gynnwys rhaglen y gynhadledd, gweler: https://creative-futures.wixsite.com/1989conference

Cyfieithu ar y prydBydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch âmlang-events@caerdydd.ac.ukerbyn dydd Gwener 15 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Mae cofrestru’n cau ar ddydd Iau 21 Tachwedd.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Trefnwyr: Heiko Feldner a Nick Hodgin - CreativeWorkhops@cardiff.ac.uk

Owain Glyndwr
St John St
Church St
Caerdydd
CF10 1GL

Rhannwch y digwyddiad hwn