Ewch i’r prif gynnwys

Mapiau ac Apiau: Beth mae dilyn pobl sy'n ceisio defnyddio Ap yn y cefn gwlad yn dweud wrthym am sut mae pobl yn crwydro rhostiroedd?

Dydd Gwener, 1 Tachwedd 2019
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bydd y cyflwyniad hwn yn ystyried sut mae mapiau rhyngweithiol beunyddiol cyfoes, fel apiau mapio ar ffonau symudol, yn llywio’r profiad o grwydro o gwmpas tirweddau rhostir. Ar sail tystiolaeth papur diweddar (Smith et al. 2019), byddwn yn archwilio darnau o ffilm o grwpiau’n crwydro rhostiroedd, gan geisio dod o hyd i bwyntiau llywio ar ap taith dywys dreftadol.

Gyda lwc, bydd yr archwiliad hwn yn ein helpu i ystyried sut mae ‘gwaith llywio’ yn cael ei wneud ar dirweddau sy’n brin o arwyddion, a sut mae nodweddion cymharol gynnil rhostiroedd yn gysylltiedig ag arferion llywio ffordd.

Cyfeirnod: Smith, Laurier, Reeves a Dunkley (2019) “Off the beaten map”: Navigating with digital maps on moorland. Transactions of the Institute of British Geographers

Ebostiwch sustainableplacescomms@caerdydd.ac.uk os oes gennych unrhyw ofynion o ran hygyrchedd.

Mae seminarau PLACE yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Rhannwch y gwahoddiad hwn gyda chydweithwyr eraill a allai fod â diddordeb.