Ewch i’r prif gynnwys

Naratifau Cyhoeddus a Phreifat am Ddinasyddiaeth a Pherthyn

Dydd Iau, 14 Tachwedd 2019
Calendar 13:30-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Arbedwch i'ch calendr

Citizens image

Dwy ddarlith gyhoeddus gyda’r siaradwr gwadd yr Athro Anne-Marie Fortier (Prifysgol Caerhirfryn) a Dr Sue-Anne Harding (Prifysgol Queen’s Belfast), fel rhan o thema’r Dinasyddion yn yr Ysgol.  Derbyniad te a chacen i ddilyn yng nghyntedd yr Ysgol Ieithoedd Modern rhwng 16:00-17: 00.

Hir yw pob ymaros: dod yn ddinesydd Prydeinig ar adegau ansicr – Professor Anne-Marie Fortier (Prifysgol Cerhirfryn)

Crynodeb

Mae’r papur yn crynhoi fy ymchwil bresennol ar gyfundrefnau dinasyddiaeth ym Mhrydain. Mae’r ymchwil yn ystyried y broses brodori ym Mhrydain ers troad y mileniwm, sy’n dilyn tueddiad cyffredinol yn nwyrain Ewrop i dynhau argaeledd dinasyddiaeth i fewnfudwyr (rhai yn fwy nag eraill). Fodd bynnag, mae Prydain hefyd yn unigryw mewn sawl maes, yn bennaf o ran sut mae ei hanes trefedigaethol yn llywio ei chyfundrefn ddinasyddiaeth bresennol (ac yn y dyfodol).

Bywgraffiad

Mae Anne-Marie Fortier yn Athro yn Adran Seicoleg Prifysgol Caerhirfryn. Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys pynciau megis ffurfio cymunedau mudol, amlddiwylliannedd, cydlyniant ac integreiddio, a’r broses brodori dinasyddiaeth yn Lloegr. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae Migrant Belongings: Memory, Space, Identity (2000) a Multicultural Horizons: Diversity and the Limits of the Civil Nation (2008). Mae hi wrthi’n cwblhau llyfr newydd gyda Gwasg Prifysgol Manceinion gyda’r teitl dros dro: Life in the Waiting Room: uncertain citizenship and citizenisation in Britain.

“Nid oes neb wedi clywed amdano, ac nid yw e hyd yn oed yno”: Lle, gwydnwch, perthynasrwydd a chyfieithu Penrhyn Qatar – Dr Sue-Ann Harding (Prifysgol Queen’s Belfast)

Crynodeb

Mae’r cyflwyniad hwn yn seiliedig ar fy ymchwil bresennol i ddarllen a chyfieithu tirweddau Gorynys Qatar. Mae’r prosiect yn dechrau gyda’r rhagosodiad mai testunau yw tirweddau ac, fel unrhyw destun, mae angen darllen y rhain a’u cyfieithu er mwyn iddynt fod yn ystyrlon i ni. Mae’r prosiect yn defnyddio deunyddiau archifol a chyfweliadau cyfoes i chwilio am ddehongliadau amgen ac anghofiedig o le sy’n gwrthsefyll ac yn herio naratifau cyhoeddus trechol Qatar, am gynnydd dilyffethair a modernedd. Lle, gwydnwch a pherthynasrwydd yw tair egwyddor sylfaenol Cronin (2017) ar gyfer ecoleg cyfieithu, a defnyddir y rhain fel themâu cydgysylltiedig yn y papur i grynhoi enghreifftiau o’r archif a gofyn cwestiynau am bwy sydd wedi’u cynnwys a’u heithrio mewn cysyniadau disgyrsiol o le, pa leoedd sy’n bwysig a’r hyn ddylem ni ei gofio.

Bywgraffiad

Mae Sue-Ann Harding yn Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfieithu ac yn gynullydd rhaglen MA Cyfieithu ym Mhrifysgol Queen’s Belfast. Ei phrif ddiddordebau ymchwil yw theori naratif-cymdeithasol fel modd o ymchwilio i gyfieithiadau a digwyddiadau sydd wedi’u cyfieithu, gyda diddordeb arbennig mewn safleoedd gwrthdaro a gwrth-haeriad mewn naratifau. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys The Routledge Handbook of Translation and Culture, a olygwyd ar y cyd ag Ovidi Carbonell Cortés (Routledge, 2018); Translating Frantz Fanon Across Continents and Languages, a olygwyd ar y cyd â Kathryn Batchelor (Routledge 2017); a Beslan: Six Stories of the Siege (Gwasg Prifysgol Manceinion 2012).  Hi yw Cadeirydd Cyngor Gweithredol y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Cyfieithu a Rhyngddiwylliannol (IATIS), Golygydd Adolygiadau ar gyfer The Translator (Taylor a Francis), ac mae hi’n aelod o Fwrdd Cynghorol Canolfan Jiao Tong Baker Shanghai ar gyfer Astudiaethau Cyfieithu a Rhyngddiwylliannol, ac mae hi’n gwasanaethu fel Cydymaith ARTIS (Hyrwyddo Ymchwil Astudiaethau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd).

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 31 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Naratifau Cyhoeddus a Phreifat am Ddinasyddiaeth a Pherthyn ar Google Maps
Tower Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn