Ewch i’r prif gynnwys

Felly, rydym i gyd yn ymchwilwyr athrawol bellach! – sut gall mentora helpu

Dydd Mercher, 6 Tachwedd 2019
Calendar 17:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

So we’re all teacher researchers now!

Byddai’r digwyddiad hwn yn cynnwys gweithdy rhyngweithiol gyda chyfraniadau gan bob cyfranogwr i ystyried themâu allweddol o ganfyddiadau ymchwil. Byddai’n creu gofod ar gyfer trafodaeth rydd a di-flewyn-ar-dafod fyddai’n canolbwyntio ar werth ymchwil i lywio a chefnogi mentora addysgiadol i ddatblygu ymarfer pedagogaidd yng Nghymru. Mae’r rhesymeg dros y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ddechrau i fynd i’r afael â’r dealltwriaethau sy’n gwrthdaro ymhlith rhanddeiliaid o ‘ymchwil’ a’i photensial i effeithio ar ymarfer athrawon er lles dysgwyr, a’r adnoddau a’r ffynonellau o arbenigedd sydd eu hangen i gefnogi athrawon a gweithwyr proffesiynol addysgiadol fel ymchwilwyr.

Byddai’r sesiwn yn seiliedig ar ein hymchwil, ein canfyddiadau ymchwil perthnasol a’n hastudiaethau, ynghyd ag adroddiadau dylanwadol a’n blogiau ynghylch ymchwil broffesiynol. Byddai’r sesiwn yn cael ei dylunio drwy ymarfer oriel lle byddai cyfranogwyr yn cael y cyfle i ymgysylltu ag ystod o dystiolaeth ymchwil, wedi’i dilyn gan ddilyniant o drafodaethau bwrdd crwn am gwestiynau pryfoclyd sy’n gysylltiedig â’r ymchwil. Y nod yw ymgysylltu â chyfranogwyr i roi beirniadaeth ar agenda ‘beth sy’n gweithio’, a meddwl yn strategol ynghylch goblygiadau canfyddiadau ymchwil ar gyfer cyflawni newid ar sail egwyddorion mewn ymarfer yn eu cyd-destunau addysgiadol eu hun – fel darparwyr addysg athrawon ac ymarferwyr ysgol. Byddai darnau o ymchwil, dyfyniadau, samplau o ddata a thablau yn cael eu defnyddio fel ffynonellau ar gyfer yr ymarfer oriel i ysgogi ymatebion cyfranogwyr, a thrafod cyfraniad y deunydd tuag at ddylunio dysgu proffesiynol all arwain at ddeilliannau gwell i ddysgwyr.

Cardiff High School
Llandennis Road
Cardiff
Cardiff
CF23 6WG

Rhannwch y digwyddiad hwn