Ewch i’r prif gynnwys

Cardiff and District United Nations Association joint meeting with Penarth Quakers

Dydd Iau, 24 October 2019
Calendar 19:15-21:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Arbedwch i'ch calendr

Mae'r digwyddiad hwn yn ddilyniant i ddigwyddiadau coffau'r Rhyfel Byd Cyntaf diweddar gan gynnwys y rhai hynny a gynhaliwyd gan Penarth Cytûn. Bydd Sir Deian Hopkin, cyn Is-Ganghellor Prifysgol South Bank, Llundain, ac Ymgynghorydd Arbenigol i Brif Weinidog Cymru ar ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, yn siarad yn Adeilad John Percival am 7.15pm ddydd Iau 24 Hydref am 'Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru, 1918-1922', ac felly ar oblygiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf ar ein cymuned ein hunain. Mae Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig (UNA) Caerdydd a'r Cylch yn cefnogi rhyngwladoldeb, ac yn cynnal ei chyfarfodydd yn y Deml Heddwch (rhwng Adeilad Bute a'r Adeilad Redwood ar hyd Rhodfa'r Brenin Edward VII ym Mharc Cathays). Mae Crynwyr Penarth yn un o'i dwsinau neu fwy o gyrff cysylltiedig, ac maent fel arfer yn cwrdd yn West House, Heol Plymouth, Penarth am 10.30am ddyddiau Sul. Mae UNA Caerdydd yn aml yn cynnal cyfarfodydd ar y cyd gydag un o'i haelodau cyswllt; mae'r cyfarfod hwn yn un o'r rheiny. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac yn anghyfyngedig. Croeso i bawb. Bydd casgliad gwirfoddol i dalu am y costau.