Ewch i’r prif gynnwys

Fy Llais Creadigol

Dydd Llun, 4 Tachwedd 2019
Calendar 10:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Cascade

Ymunwch â ni ar gyfer arddangosfa ‘Celf Protest’ a grëwyd gan bobl ifanc sydd â phrofiad o fod o dan ofal.  Bu pobl ifanc o grŵp cynghori ymchwil Lleisiau CASCADE yn myfyrio ar eu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil, polisi ac ymarfer i greu placardiau a baneri ‘Protest’. Bydd gwaith celf unigol a gynhyrchwyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad hwn i’w weld yn yr arddangosfa. Bydd hefyd yn cynnwys adnoddau eraill a grëwyd yn flaenorol gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn rhan o brosiectau CASCADE (Canolfan ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol i blant).

Bydd yr arddangosfa ar gael drwy’r dydd, ddydd Llun 4 Tachwedd a bydd digwyddiad arddangos o 17.30 ymlaen. Yn y digwyddiad hwn, byddwn yn trin a thrafod yr hyn sydd wedi ysgogi Celf Protest y bobl ifanc ac yn ystyried ffyrdd creadigol o ddefnyddio ymchwil i gydweithio â phobl ifanc. Yn y digwyddiad, ceir cyfle i glywed yn uniongyrchol gan ymchwilwyr yn trafod prosiectau sy’n ymateb i’r blaenoriaethau a bennwyd gan y bobl ifanc.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn yr arddangosfa a’r digwyddiad yn gallu creu eu gwaith celf bach eu hunain hefyd i’w ychwanegu at y digwyddiad. Bydd hyn yn amlygu eu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil neu eu hadborth am yr arddangosfa.

Gyda lwc, bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i amlygu lleisiau pobl ifanc, arddangos gwaith gwyddonwyr cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, meithrin cysylltiadau ehangach gyda’r gymuned, ac annog mwy o’r cyhoedd i gymryd rhan mewn ymchwil.

Lower Level Exhibition Space
Queens Arcade
Queens Street
Cardiff
CF10 2BY

Rhannwch y digwyddiad hwn