Ewch i’r prif gynnwys

Cynhelir Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol

Dydd Gwener, 1 Tachwedd 2019
Calendar 13:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Festival of Social Sciences Launch

Cynhelir Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol rhwng 2 a 9 Tachwedd 2019, gyda channoedd o ddigwyddiadau ar draws y DU. Gyda phopeth o ddangosiadau ffilm, arddangosfeydd, gweithdai a theithiau i drafodaethau a phrofiadau ymarferol, mae digwyddiadau addas i bob oedran a chefndir.

Eleni, bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal deg digwyddiad gwahanol fydd yn cwmpasu ystod eang o bynciau - iechyd meddwl a lles, y gyfraith a gwleidyddiaeth, diwygiadau addysg, a chynaliadwyedd a threulio nwyddau, i sôn am rai ohonynt.

A digwyddiadau’r flwyddyn hon yn fwy nag erioed, bydd Prifysgol Caerdydd yn sbarduno Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol gyda lansiad ddydd Gwener 1 Tachwedd. Cynhelir y digwyddiad gan yr Athro Damian Walford Davies ac Adam Price (AS) fydd ein siaradwr gwadd.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfeydd o wahanol brosiectau ym maes ymchwil y gwyddorau cymdeithasol gan Brifysgol Caerdydd a Sefydiadau Addysg Uwch eraill Cymru. Bydd yn cynnwys cyflwyniadau a thrafodaethau am yr amrywiaeth o ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol a gynhelir yma yng Nghymru. Dewch i’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn a phrofi sut mae ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol yn cyfrannu ac yn cyfoethogi eich bywyd bob dydd!

Gallwch hefyd ddilyn neu gyfrannu at y digwyddiadau ar Twitter drwy ddefnyddio #esrcfestival.

Cornerstone
Charles Street
Cardiff
Cardiff
CF10 2SF

Rhannwch y digwyddiad hwn