Cyfrinachau Vulcan: byd cudd llosgfynyddoedd tanddwr
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Oeddech chi'n gwybod bod y rhan fwyaf o ffrwydradau folcanig - efallai hyd yn oed 90% ohonynt - yn digwydd o dan ddŵr ac nad ydym yn ymwybodol ohonynt i raddau helaeth?
Mae llawer iawn nad ydym yn ei wybod am losgfynyddoedd o hyd, ond mae llawer o wybodaeth newydd a chyffrous yn dod i'r amlwg o ymchwil barhaus.
Yn y sgwrs hon bydd yr Athro Chris MacLeod, daearegwr morol o Ysgol Gwyddorau Daear a'r Môr Prifysgol Caerdydd, yn dangos sut mae datblygiadau mewn technoleg yn agor ein llygaid yn raddol i ryfeddod amrywiol llosgfynyddoedd tanfor, a sut mae astudio folcaniaeth o'r fath yn hyrwyddo ein dealltwriaeth o waith y blaned.
Cyfres Llosgfynyddoedd - popeth mae angen i chi ei wybod
Bydd y gyfres hon o ddarlithoedd yn cwmpasu amrywiaeth llosgfynyddoedd, eu gweithrediad a'u cynhyrchion, ynghyd â natur ffrwydradau a'r problemau o ran eu rhagweld, ynghyd â'u heffeithiau amgylcheddol a biolegol yn y gorffennol a'r presennol.
Oeddech chi'n gwybod bod y rhan fwyaf o echdoriadau folcanig - efallai hyd at 90% - yn digwydd o dan ddŵr ac nad ydym yn ymwybodol ohonynt i raddau helaeth? Mae yna lawer iawn nad ydym yn ei wybod am losgfynyddoedd, ond mae llawer o wybodaeth newydd gyffrous yn dod i'r amlwg o ymchwil barhaus.
Os oes angen i chi gael y sesiynau Holi ac Ateb yn Gymraeg, ebostiwch edwardsd2@caerdydd.ac.uk o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad.
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT