Ewch i’r prif gynnwys

Ailgynllunio dyfodol ynni carbon isel ym Mhort Talbot

Dydd Iau, 7 Tachwedd 2019
Calendar 19:00-21:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Flexis

Mae'r digwyddiad yn adeiladu ar ymchwil gwyddor gymdeithasol a gynhaliwyd fel rhan o brosiect amlddisgyblaethol FLEXIS, sy’n cael ei redeg gan brifysgolion Caerdydd, Abertawe a De Cymru. Mae FLEXIS yn datblygu prosiectau arddangos sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio ein system ynni, ac mae'n defnyddio Port Talbot fel locws ar gyfer datblygu technoleg. Byddwn yn cyflwyno canlyniadau o 5 gweithdy cymunedol, a gynhaliwyd yn 2019 ym Mhort Talbot. Roedd y gweithdai yn canolbwyntio ar bedwar senario ynni posibl ar gyfer y dyfodol mae’r tîm gwyddor gymdeithasol FLEXIS wedi eu datblygu. Yn y gweithdai, fe wnaeth cyfranogwyr ddefnyddio mapiau cymunedol i nodi materion sy'n berthnasol i le, a gwerthuso pa mor ddymunol yw’r senarios ynni, neu fel arall.  Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys cyflwyniadau a thrafodaethau am y gweithgaredd mapio cymunedol, a bydd yn rhoi cyfle i archwilio a gwerthuso'r ddau senario sydd wedi cyffroi’r diddordeb mwyaf ymhlith cyfranogwyr y gweithdy. Trwy drafodaethau o fapiau a senarios, rydym yn ceisio cysylltu pa mor ddymunol yw llwybrau penodol ar gyfer newid cymdeithasol-dechnegol eang (datgarboneiddio pŵer, gwres a thrafnidiaeth) ar gyfer cymeriad cymdeithasol a daearyddol penodol lleoedd.

St Paul's Centre
St Paul's Centre
Gerald Street
Port Talbot
SA12 6DQ

Rhannwch y digwyddiad hwn