Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth Lle Dwfn Llanymddyfri: Llwybr ar Gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

Dydd Mercher, 30 October 2019
Calendar 17:30-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Pa fath o economi a chymdeithas ydyn ni am eu creu yn ein gwahanol gymunedau i gyflawni cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol yn Llanymddyfri?

Ymunwch â ni yn y seminar hwn i gyflwyno Astudiaeth Lle Dwfn Llanymddyfri, lle bydd Dr Mark Lang a'r Athro Terry Marsden yn trafod canfyddiadau'r bedwaredd astudiaeth Lle Dwfn, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.

Mae Lle Dwfn yn ddull holistaidd o greu lleoedd cynaliadwy. Mae wedi’i wreiddio mewn pryder empeiraidd ynghylch sut i gyflawni mannau a chymunedau mwy cynaliadwy yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol.

Mae’r dull yn parhau i gael ei ddylanwadu gan theorïau allgau cymdeithasol, theori trawsnewid, yr agenda diwygio gwasanaethau cyhoeddus ‘Total Place’ ac economeg gwaddoledig, ac mae’n ymdrechu i ddylanwadu ar y rhain wedi hynny.

Mae'r adroddiad yn ceisio nodi mentrau ac adnoddau lleol, ynghyd ag angerdd ac ymrwymiad pobl a busnesau lleol yn Llanymddyfri. Mae'r rhain, yn ôl yr adroddiad, yn ffurfio sylfaen dull sy'n canolbwyntio ar le yn ei gyfanrwydd, ac mae hyn yn holl bwysig er mwyn sicrhau bod ein holl gymunedau'n fwy cyfiawn, gwydn a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Ebostiwch sustainableplacescomms@caerdydd.ac.uk os oes gennych unrhyw ofynion o ran mynediad.

Gweld Astudiaeth Lle Dwfn Llanymddyfri: Llwybr ar Gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol ar Google Maps
Council Chamber
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn