Ewch i’r prif gynnwys

Darlith Goffa Julian Tudor Hart

Dydd Iau, 12 Medi 2019
Calendar 17:30-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae’r cyfnod cofrestru wedi dod i ben.

Crynodeb:

Mae darlith ddiweddaraf y gyfres ddarlithoedd flynyddol hon, sydd bellach yn ei 13eg flwyddyn, yn arbennig o ddwysbigol yn dilyn marwolaeth Dr Julian Tudor Hart ym mis Gorffennaf 2018. Roedd Julian yn feddyg dawnus, a daeth ei waith arloesol fel Meddyg Teulu yng Nghymoedd De Cymru yn yr 1960au i amlygrwydd byd-eang wedi i’w waith blaengar ar ‘Y Gyfraith Ofal Wrthdroadol’ gael ei gyhoeddi yn y Lancet yn 1971. Fe wnaeth y papur hwn, sef o bosib y gydnabyddiaeth gyhoeddus gyntaf i ‘anghyfartaleddau iechyd’, ysbrydoli nifer o bobl i ymgymryd â’r achos a herio’r anghyfartaleddau y gwnaeth ef eu hamlygu y pryd hynny, sy’n parhau hyd heddiw. Fodd bynnag, fe wnaeth ei ymagwedd at ofal sylfaenol ymestyn ymhell tu hwnt i’r frwydr dros gyfiawnder cymdeithasol y gwnaeth ei harddel drwy gydol ei fywyd, wrth iddo arloesi’r ffordd ar gyfer datblygu a hyrwyddo gwyddoniaeth ac ymchwil ochr yn ochr â gofal iechyd mewn ymarfer cyffredinol.

Ac yntau’n gwyro oddi wrth y fformat darlithio traddodiadol, fe wnaeth Julian awgrymu cael trafodaeth banel er mwyn ‘ysgwyd pethau’, ac mae’r ddarlith eleni yn cynnig cyfle i wneud hynny wrth i gymheiriaid, cydweithwyr a chyfeillion fyfyrio dros yr effaith a gafodd arnynt hwythau, ar ymarfer cyffredinol ac ar gyfeiriad gofal iechyd yng Nghymru a’r tu hwnt yn y dyfodol.

Gweld Darlith Goffa Julian Tudor Hart ar Google Maps
Adeilad Morgannwg
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn