Ewch i’r prif gynnwys

Ffermio teuluol, system fwyd gynaliadwy a datblygu gwledig gan Lilian De Pellegrini Elias

Dydd Mercher, 26 Mehefin 2019
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae'r gydfodolaeth rhwng cynhyrchu mwy o fwyd a thwf pob math o ansicrwydd bwyd yn codi cwestiwn: A yw'r model amaethyddol presennol wedi'i gynllunio i fwydo'r byd? 

Nod y prosiect ymchwil PhD hwn yw dadansoddi ffermio teuluol fel elfen allweddol i gyflawni system fwyd gynaliadwy - er mwyn parhau i gael gwared ar y tlodi, y newyn a'r diffyg maeth. Er mwyn cyrraedd y nodau ymchwil, bydd heterogenedd ffermio teuluol, newidiadau strwythurol i'r farchnad a pholisïau cyhoeddus cysylltiedig yn cael eu dadansoddi. 

Testun yr ymchwil hon yw talaith Santa Catarina ym Mrasil lle ceir enghraifft ragorol o amaethyddiaeth yn seiliedig ar ffermio teuluol mewn gwrthwynebiad i'r model amaethyddol presennol a fabwysiadwyd ym Mrasil.

Mae seminarau PLACE yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.