Cynllunio Seilwaith Gwyrdd Strategol mewn Ymateb i Heriau Cymdeithasol ac Ecolegol Dinasoedd gan Dr Wan-Yu Shih
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae’r ddarlith hon yn trafod ymchwil seilwaith gwyrdd strategol a goblygiadau cynllunio cysylltiedig ar gyfer dinasoedd. Mae canfyddiadau o ymchwil empirig, yn enwedig gwaith a wnaed yng nghyd-destun Dinas Taipei, yn cael eu defnyddio i ddangos gwerth a chyfyngiadau posibl dulliau seilwaith gwyrdd wrth ymateb i broblemau cymdeithasol ac amgylcheddol mewn dinasoedd. Mae Seilwaith Gwyrdd yn gysyniad cynllunio synthetig sy'n datblygu, ac sydd wedi'i wreiddio mewn theorïau ac egwyddorion cadwraeth natur a chynllunio mannau gwyrdd.
Mae'n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi fwyfwy mewn agendâu amgylcheddol rhyngwladol, fel polisi amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd ac agenda ymchwil a gweithredu CitiesIPCC. Mae seilwaith gwyrdd yn cael ei ystyried yn ateb sy'n seiliedig ar natur ar gyfer dinas-ranbarthau i warchod bioamrywiaeth, addasu i'r newid yn yr hinsawdd a gwella lles pobl a chydraddoldeb cymdeithasol. Mae'r cyflwyniad hwn yn ymdrin â materion ehangach ynglŷn â chydberthynas seilwaith gwyrdd ag amgylcheddau adeiledig (seilwaith llwyd), gwendidau cymdeithasol, ac anghydraddoldeb gofodol yn ogystal â'r heriau i integreiddio'r strategaeth hon i'r systemau cynllunio presennol yn Nhaiwan.
Mae seminarau PLACE yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.
33 Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BA