Ewch i’r prif gynnwys

Knowing to Grow: Increasing the resilience of plant-centred food production skills - Workshop 1

Dydd Mawrth, 4 Mehefin 2019
Calendar 11:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Plants growing

Mae’r ymchwil hon yn ystyried sut i fodloni gofynion gwybodaeth ar gyfer cadwyni cyflenwi bwyd y dyfodol, gan ganolbwyntio ar achos cynhyrchu garddwriaethol. Bydd yn tynnu ar brofiadau rhyngwladol ac arbenigedd rhanddeiliaid i lywio strategaethau er mwyn gwella diogelwch bwyd yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd y gweithdy prosiect cyntaf yn ddigwyddiad rhyngweithiol i roi cyfle i randdeiliaid ddysgu am ganfyddiadau o'r cam cyntaf, ac i lunio blaenoriaethau parhaus, gan gynnwys dewis astudiaethau achos. Dr Hannah Pitt, o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd fydd yn cynnal ac yn hwyluso’r gweithdy.

Y gweithdy 

Bydd hyd at 20 o bobl yn cymryd rhan, gan gynnwys cynrychiolwyr o Lantra, AHDB, busnesau, tyfwyr, colegau addysg bellach ac ymchwilwyr academaidd. Mae'r fformat yn cynnwys cyflwyniadau a gweithgareddau rhyngweithiol, a thrafodaethau wedi'u hwyluso. Bydd cinio a lluniaeth are gael. Os hoffech chi ddod, cysylltwch â’r trefnwyr gan mai dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael.

Rhaglen

  1. Cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil cwmpasu: y broblem gyda sgiliau garddwriaethol, yr achosion, a pam nad yw ymdrechion i fynd i'r afael â nhw wedi llwyddo.
  2. Archwilio a blaenoriaethu'r cwestiynau allweddol sy'n codi.
  3. Taflwybrau a phrofiadau sy’n nodweddu busnesau garddwriaethol.
  4. Cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer ymchwil astudiaethau achos.
  5. Trafod dyheadau ar gyfer allbynnau a chanlyniadau ymchwil.

Os hoffech fynd i'r digwyddiad:
Atebwch pitth2@caerdydd.ac.uk a byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth atoch am y digwyddiad. Rydym yn fodlon rhannu’r neges hon gydag unrhyw un sydd â diddordeb - rhowch wybod i ni beth yw eu manylion cyswllt.

Mae gennym gyllideb fach i dalu am gostau teithio i'r rheini sydd angen arian i'w helpu i fynd i’r digwyddiad. Nodwch yn eich ateb a hoffech gael ad-daliad teithio.

Os na allwch fynd i’r digwyddiad ond hoffech gael gwybodaeth am weithgareddau yn y dyfodol a chanlyniadau'r prosiect, ebostiwch pitth2@caerdydd.ac.uk yn gofyn iddynt eich ychwanegu i’r rhestr bostio.