Ewch i’r prif gynnwys

Clwb Tai Chi 2019

Calendar Dydd Sadwrn 18 Mai 2019, 12:00-Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2019, 13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Tai Chi Club 2019

Mae Tai Chi Tsieineaidd yn fath hynafol a phrydferth o gelf yn ogystal â ffordd o gadw’n iach. Datblygwyd yn wreiddiol fel crefft ymladd, ond mae Tai Chi yn cael ei ymarfer ar draws y byd erbyn hyn i hyrwyddo iechyd a lles gan ei fod yn cyfuno anadlu’n ddwfn ac ymlacio gyda symudiadau llifol.

Ymunwch â ni mewn cwrs Tai Chi Tsieineaidd pedair wythnos o hyd lle byddwn yn eich cyflwyno i hanes Tai Chi yn ogystal â’i ddefnydd modern. Yn ystod y cwrs byddwch yn meithrin dealltwriaeth o rai o’r ystumiau sylfaenol o ddefnyddir yn Tai Chi a’r ystyr y tu ôl iddyn nhw. Cynhelir sesiwn ymarferol bob wythnos i roi’r cyfle i chi wella eich techneg. Cynhelir y cwrs ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Sadwrn 18 Mai, 1pm-2pm, Llyfrgell Treganna
  • Dydd Sadwrn 25 Mai, 1pm-2pm, Llyfrgell Treganna
  • Dydd Sadwrn 1 Mehefin, 1pm-2pm, Llyfrgell Treganna
  • Dydd Sadwrn 8 Mehefin, 1pm-2pm, Llyfrgell Treganna

Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly cysylltwch â’r llyfrgell i gadw lle (029 2078 0999 / cantonlibrary@cardiff.gov.uk). Codir tâl bychan o £2 y ​​sesiwn.

Llyfrgell Treganna
Library Street
Treganna
Caerdydd
CF5 1QD

Rhannwch y digwyddiad hwn