Ewch i’r prif gynnwys

Torri Tir Newydd? Cyfyngiadau lles fel nod mewn polisi a modelau meintiol o le gan Crispin Cooper

Dydd Gwener, 3 Mai 2019
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Ers cryn amser, mae llywodraethau a chynllunwyr trefol wedi defnyddio modelau meintiol er mwyn cymharu gwahanol opsiynau ar gyfer datblygiadau’r dyfodol a llywio’r broses o wneud penderfyniadau. Wrth allu edrych yn ôl, nid yw’r dulliau mesur a ddewiswyd (e.e. perfformiad economaidd, tagfeydd ar yr hewlydd, ac ati) wedi bod o gymorth bob tro. 

Ymddengys mai’r tueddiad presennol o fesur lles goddrychol yn uniongyrchol yw’r hyn y mae cymdeithas yn ceisio’i gyflawni, ac felly mae’n bosibl ei fod yn cynnig ffordd ymlaen: o dan ddeddfwriaeth yng Nghymru, ystyrir y bydd risg i’r hinsawdd yn effeithio ar les cenedlaethau’r dyfodol yn y pen draw. 

Fodd bynnag, mae effeithiau didoli gofodol yn ei gwneud hi’n anodd modelu effaith lle ar les. Yn ogystal, mae defnyddio lles fel nod mewn polisi yn broblem yn ei hun, gan nad yw’n ateb cwestiynau dosbarthiadol, a cheir perygl o fanteisio ar y rhai hynny sydd fwyaf parod i leihau eu disgwyliadau. Yn y seminar hwn, trafodir dulliau amgen.