Ewch i’r prif gynnwys

Egwyddorion Craidd ar gyfer Arloesedd Cymdeithasol o ran Polisi Cyhoeddus: cipolygon, risgiau a heriau gan ymchwil yn Awstralia

Dydd Gwener, 26 Ebrill 2019
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Beth mae arloesedd cymdeithasol yn ei olygu a pham mae’r llywodraeth wedi cyffroi yn ei gylch? Bydd y seminar yn dangos cipolygon o astudiaeth ymchwil archwiliadol a gynhaliwyd gyda chymdeithas sifil a gweision sifil yn Awstralia ar gryfderau, gwendidau a gwerth arloesedd cymdeithasol mewn polisi cyhoeddus.  

Bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar gyflwyno: diffyg eglurder cysyniadol ynghylch ‘arloesedd cymdeithasol’ yn y sector cyhoeddus yn Awstralia a materion sy’n gysylltiedig â hynny o ran ymgysylltu cyhoeddus, sut y gwnaeth gweision sifil bwysleisio gwerth dulliau arloesi cymdeithasol yn y broses, ac yn olaf, saith o’r prif heriau ar gyfer arloesedd cymdeithasol yn y llywodraeth i lywio ymchwil y dyfodol. 

Daw’r cyflwyniad i ben drwy ddechrau trafodaeth ynghylch chwech o egwyddorion craidd arloesedd cymdeithasol i uno’r maes a mynd i’r afael â’i ddiffyg eglurder cysyniadol. Gellir dadlau fod egwyddorion craidd yn llai llym ac yn fwy defnyddiol na diffiniad ar gyfer arloesedd cymdeithasol, gan gysylltu ymarfer a diogelu ymgysylltiad cyhoeddus ag atebolrwydd hyblyg mewn maes sy’n datblygu ac yn esblygu.