Ewch i’r prif gynnwys

Arddangosfa: 50 Mlynedd o Innovate Trust

Calendar Dydd Mercher 10 Ebrill 2019, 09:00-Dydd Gwener 24 Mai 2019, 17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Black and white photo of two men smiling, their hands touching. They are smiling and looking happy.

Mae Innovate Trust yn dathlu eu pen blwydd yn 50 eleni. Mae’r elusen annibynnol hon wedi newid bywydau nifer o bobl anabl ar draws y byd – a dechreuodd y cwbl yma, ym Mhrifysgol Caerdydd. Eleni, mae gwirfoddolwyr sy’n anabl wedi bod yn chwilota yn hanesion cynnar y sefydliad, i’w rhannu mewn arddangosfa newydd.

Swyddogaeth Innovate Trust yw i gefnogi oedolion gydag anableddau dysgu, anableddau corfforol, nam ar synnwyr neu gyflwr iechyd meddwl. Mae’n nhw’n cyflenwi gwasanaethau cartrefi cefnogol, yn ogystal â hyfforddiant, cyfleoedd gwaith a chyfleoedd i gymdeithasu.

Dechrau’r daith ar gyfer yr elusen oedd fel prosiect o’r enw ‘Cardiff University Social Services’, ac ers ei sefydlu, mae wedi datblygu i fod yn gorff yn hynod o ddylanwadol, sydd wedi brwydro dros hawliau ac urddas pobl anabl.

Casgliadau Arbennig ac Archifau
Llyfrgell y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn