Ewch i’r prif gynnwys

Gwagleoedd a Gwleidyddiaeth Estheteg

Calendar Dydd Llun 10 Mehefin 2019, 12:00-Dydd Mawrth 11 Mehefin 2019, 17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

2il Symposiwm Blynyddol y Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Gymdeithasol a Diwylliannol, 10–11 Mehefin 2019, Prifysgol Caerdydd

Trefnwyr: Julian Brigstocke a Günter Gassner

Diwrnod 1 - Ystafell Bwyllgor 1 & 2, Adeilad Morgannwg

Diwrnod 2 - Adeilad Redwood

Bydd Mustafa Dikeç, Deborah Dixon, Jessica Dubow, a Graeme Gilloch ymhith y rhai fydd yn cymryd rhan.

Mae cysylltiadau rhwng gofod, estheteg a gwleidyddiaeth yn thema ganolog wrth ddadansoddi yn y celfyddydau, y gwyddorau cymdeithasol, a geo- ddyniaethau (Dikeç, 2015; Dixon, 2009; Straughan a Hawkins, 2015; Yusoff, 2017). Yn yr achos yma, mae ‘Estheteg’, yn yn cyfeirio at yr hyn sy'n rhan o brofiad synhwyraidd - i strwythurau sy'n fframio'r hyn sy'n cael ei glywed a'i weld. Bydd y symposiwm hwn yn trin a thrafod materion empirig a chysyniadol gan gynnwys: seiliau synhwyraidd gwleidyddiaeth; rôl estheteg mewn perthynas â (i) goddrychedd dynol; a safleoedd, gofodau a thirweddau deunydd estheteg gwleidyddol.

Yn eu dadansoddiadau o ddinasoedd, moderniaeth, a gwleidyddiaeth diwylliant, gofynnodd awduron sy'n gysylltiedig ag Ysgol Frankfurt gwestiynau pwysig ynghylch gwleidyddiaeth estheteg, gofodau profiad, a phroblem dieithrio a dad-ddynoli (Gilloch, 1996, 2015). Yn ganolog i hyn roedd beirniadaeth o ddynoliaethau rhyddfrydol a Marcsaidd. Er enghraifft, edrychodd Benjamin ar bŵer adferadwy'r ‘annynol' a'r ‘creadurol’ (Hanssen, 1998) wrth ddatblygu ffurfiau o feirniadaeth sydd ag amodau sy’n ansefydlogi gofod, goddrychedd, a chynrychiolaeth (Dubow, 2004). Mae syniadau o'r fath yn cyd-fynd, i ryw raddau, ag archwiliadau mwy diweddar o estheteg bodolaeth Foucault, gwleidyddiaeth estheteg Rancière (Dikeç, 2015), patrwm esthetig newydd Guattari (Gerlach et al., 2019), a barddoniaeth perthynas Glissant (1997). Mae’r rhain yn herio terfynau profiad dynol, ac yn ymestyn yr esthetig ar draws gwahanol feysydd bywyd.

Mae defnyddioldeb dadansoddiad esthetig hefyd yn cael ei herio. Er enghraifft, mae damcaniaeth faterol newydd yn tanseilio'r gwahaniaeth rhwng pwnc sy'n profi a gwrthrych profiad (Seghal, 2018). Awgryma beirniadaethau dadwladychu fod estheteg wedi'i gysylltu'n agos â phrofiadau a safbwyntiau trefedigaethol (Dubow, 2009; Mignolo & Vázquez, 2013; Jackson, 2016). Ar yr un pryd, mae eraill yn dadlau bod gan yr esthetig rôl hanfodol wrth adfer dyneiddiaeth ‘anniwylliedig’ (Chuh, 2019) ac sydd wedi’i 'ail-swyno' (Wynter & Scott, 2000) sy'n gwrthod ildio tirwedd y ddynoliaeth i strwythurau cyfalafiaeth trefedigaethol a phatriarchaidd (McKittrick, 2006). Yma, mae dadansoddiad esthetig materol yn golygu byw yn y gofod llawn rhwng dad-ddynoli a dad-unigolyddu (Last, 2017), yn ogystal â datblygu gweledigaethau newydd o estheteg amgylcheddol ac ecolegol (Blencowe, 2016; Brady, Brook a Prior, 2018; Yusoff, 2010).

Rydym yn gwahodd y rhai sy’n cymryd rhan i fynd i'r afael â themâu gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Gwleidyddiaeth a strwythurau profiad
  • Y berthynas rhwng barn wleidyddol a barn esthetig
  • Gwleidyddiaeth esthetig
  • Estheteg, dyneiddiaeth ac ôl-ddynoliaeth
  • Estheteg a chynhyrchu gofodol gwrthrychau a hunaniaethau
  • Estheteg fel peiriant buddiol o gyfalafiaeth gyfoes
  • Estheteg dadwladychu a barddol
  • Estheteg materol ffeministaidd
  • Estheteg amgylcheddol

Bydd y symposiwm yn un bach a chyfeillgar. Bydd yn cyfuno cyflwyniadau a thrafodaethau ynghylch cysyniadau dethol ar ffurf seminar. Rydym yn gwahodd cyfranogwyr o bob cam yn eu gyrfa i naill ai: gyflwyno papur (20 munud, a 10 munud ar gyfer trafodaeth), neu fynd i drafodaethau a chymryd rhan ynddynt heb gyflwyno papur. Anfonwch neges i fynegi diddordeb gan gynnwys crynodeb a/neu fywgraffiad byr at jaynem1@caerdydd.ac.uk erbyn 17.00 ddydd Llun 29 Ebrill 2019.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim. Rhoddir 3 bwrsariaeth o £100 i hwyluso ysgolheigion ôl-raddedig/di-gyflog. Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer bwrsariaeth, anfonwch baragraff byr sy’n sôn am sut mae thema’r symposiwm yn berthnasol i’ch gwaith.

Bydd cinio ar gael. Rhowch wybod am unrhyw ofynion deietegol. Cynhelir y symposiwm rhwng 12.00 a 18.00 ddydd Llun, 10 Mehefin, a rhwng 9.00 a 17.00 ddydd Mawrth, 11 Mehefin. Gofynnir i’r rhai fydd yn cymryd rhan fod yno ar y ddau ddiwrnod.

Cyfeirnodau

Blencowe, C. (2016) Ecological attunement in a theological key: Adventures in antifascist aesthetics, GeoHumanities, 2(1), tt. 24-41.

Brady, E., Brook, I. a Prior, J. (2018) Between Nature and Culture: The Aesthetics of Modified Environments, Rowman a Littlefield.

Caygill, H. (1998) Walter Benjamin: The Colour of Experience, Routledge.

Chuh, K. (2019) The Difference Aesthetics Makes: On the Humanities “After Man”, Duke University Press.

Dikeç, M. (2015) Space, Politics, and Aesthetics, Edinburgh University Press.

Dixon, D. P. (2009) ‘Creating the semi‐living: on politics, aesthetics and the more‐than‐human’, Transactions of the Institute of British Geographers, 34(4), 411-425.

Dubow, J. (2004) ‘Outside of Place and Other than Optical: Walter Benjamin and the Geography of Critical Thought’, Journal of Visual Culture, 3(3), tt. 259-274.

Dubow, J. (2009) Settling the Self: Colonial Space, Colonial Identity and the South African Landscape (VDM Verlag, Saarbrucken).

Gerlach, J., Jellis, T. & Dewsbury, J. D. (eds) (2019) Why Guattari? A Liberation of Cartographies, Ecologies and Politics, Routledge.

Gilloch, G. (1996) Myth and Metropolis: Walter Benjamin and the City, Polity press.

Gilloch, G. (2015) Siegfried Kracauer: Our Companion in Misfortune, Polity Press.

Glissant, E. (1997) Poetics of Relation, cyfieithiad. B. Wing, University of Michigan Press.

Hanssen, B. (1998) Walter Benjamin's Other History: Of Stones, Animals, Human Beings, and Angels, University of California Press.

Jackson, M. (2016) ‘Aesthetics, politics, and attunement: On some questions brought by alterity and ontology’, GeoHumanities, 2(1), 8-23.

Last, A. (2017) ‘Re-reading worldliness: Hannah Arendt and the question of matter’, Environment and Planning D: Society and Space, 35(1), 72-87.

McKittrick, K. (2006) Demonic Grounds: Black Women and The Cartographies of Struggle, University of Minnesota Press.

Mignolo, W., a Vázquez, R. (2013) ‘Decolonial Aesthesis: Colonial wounds/decolonial healings’, Social Text, 15.

Sehgal, M. (2018). Aesthetic Concerns, Philosophical Fabulations: The Importance of a 'New Aesthetic Paradigm', SubStance, 47(1), 112-129.

Straughan, E. a Hawkins, H. (golygyddion) (2015), Geographical Aesthetics: Imagining Space, Staging Encounters, Routledge.

Wynter, S. a Scott, D. (2000) ‘The re-enchantment of humanism: An interview with Sylvia Wynter’, Small Axe8, 119-207.

Yusoff, K. (2017) ‘Epochal Aesthetics: Affectual Infrastructures of the Anthropocene’, e-flux.

Yusoff, K. (2010) ‘Biopolitical economies and the political aesthetics of climate change’, Theory, Culture and Society, 27(2), 73-99.

Ystafell Bwyllgor 1 & 2
Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Adeilad Morgannwg
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn