Ewch i’r prif gynnwys

Thucydides Byd-eang: Addysgu, Ymchwilio, a Pherfformio Thucydides

Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2019
Calendar 12:30-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Head of Thucydides statue with scenery behind

Gweithdy Rhyngwladol ar sut mae Thucydides yn cael ei dderbyn yn y byd modern, wedi'i drefnu gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd, Hanes yr Henfyd yn Ruhr-Universität Bochum, yr Almaen, a'r Sefydliad Astudiaethau Clasurol, Ysgol Uwchefrydiau, Llundain, gyda chymorth y Gymdeithas er Hyrwyddo Astudiaethau Helenaidd (SPHS) a'r Gymdeithas Glasurol, DU.

Pam a sut mae ‘Hanes Rhyfel y Peloponnesos’ gan Thucydides yn parhau i greu trafodaeth am y gorffennol, y presennol a'r dyfodol? Sut mae gwahanol gymdeithasau, systemau addysgol, grwpiau ac unigolion yn ymateb iddo ac yn cael gwersi hanesyddol? A yw gwerth parhaol a pherthnasedd Thucydides yn gysylltiedig â'i allu i fod yn berthnasol i argyfyngau byd-eang a lleol? Mae ‘Trap Thucydides’, term a luniwyd yn ddiweddar i ddisgrifio sut mae rhyfel yn anochel (‘trap marwol') pan fydd deinameg pŵer rhwng prif bwerau rhyngwladol yn newid, yn enghraifft o hynny. Ar lefel leol, bydd y diddordeb digynsail mewn cynyrchiadau theatrig Thucydides yng Ngwlad Groeg o 2010 ymlaen (‘Gwlad Groeg yr Argyfwng’) yn cael sylw arbennig, fel ymateb artistig a deallusol i argyfwng cymdeithasol.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.

Room 349
Institute of Classical Studies
Third Floor, Senate House
Malet Street
London
WC1E 7HU

Rhannwch y digwyddiad hwn