Ewch i’r prif gynnwys

Olrhain llwybrau’r defnydd o ddŵr, ynni a thir mewn byd sydd wedi globaleiddio

Dydd Mercher, 27 Mawrth 2019
Calendar 12:00-12:45

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae gwir angen camau sy’n mynd i’r afael â dadfeiliad a’r gor-ddefnydd o adnoddau dŵr, ynni, a thir mewn gwledydd unigol ac yn fyd-eang. Fodd bynnag, mae echdynnu a defnyddio adnoddau naturiol yn hynod rhyng-gysylltiedig, yn ofodol ac yn sectorol, o fewn gwe gymhleth o ryngweithio ac adborth. Mae llwybrau cudd adnoddau yn mynnu cysylltu gwledydd, sectorau a defnyddwyr mewn cadwyni cyflenwi rhyngwladol. Bydd y cyflwyniad hwn yn edrych ar sut mae defnyddio adnoddau yn cysylltu gwahanol actorion yn yr economi fyd-eang, yn seiliedig ar ddadansoddiad o 189 o wledydd, 150,000 o sectorau, a 250 miliwn o gadwyni cyflenwi. Bydd astudiaethau achos yn cynnwys: masnach ryngwladol ffa soia, rôl masnach mewn risg adnoddau cenedlaethol a’r addewid o ddadansoddi rhwydweithiau mewn modelu amgylcheddol sy’n gysylltiedig â masnach.

Bywgraffiad

Mae Oliver Taherzadeh yn Economegydd Ecolegol ac yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae ei ymchwil yn edrych ar ôl-troed amgylcheddol byd-eang gwledydd a sectorau. Roedd Oliver yn arfer bod yn ymchwilydd yn Sefydliad Amgylcheddol Stockholm ar faterion sy’n gysylltiedig â masnach ryngwladol a rheoli cadwyni cyflenwi cynaliadwy.