Ewch i’r prif gynnwys

Sofraniaeth fwyd drwy gydraddoldeb rhywedd mewn Cymunedau Cynhenid: astudiaeth achos yng nghymunedau’r Wayúu, Colombia gan Daniela De Fex Wolf

Dydd Gwener, 22 Mawrth 2019
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Wayúu yw'r prif grŵp cynhenid yng Ngholombia, sydd wedi'u lleoli yng ngogledd-ddwyrain y wlad ac maent yn adnabyddus am fod yn ffermwyr, pysgotwyr, crefftwyr a masnachwyr. Mae’r Wayúu wedi dioddef llawer o ganlyniad i wladychu, gwrthdaro tiriogaethol, diraddio adnoddau naturiol yn ogystal â phroblemau difrifol yn ymwneud â diogelwch bwyd a sofraniaeth yn ddiweddar.

Mae gan fenywod Wayúu rôl berthnasol a pharchus yn eu cymdeithas, nid yn unig oherwydd ei bod yn gymdeithas famlinachol a gwreig-gynefinol. Mae menywod hefyd yn ganolwyr mewn sawl math o wrthdaro, yn weithgar iawn yn y meysydd gwleidyddol ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn goruchwylio sut y trosglwyddir diwylliant Wayúu drwy’r cenedlaethau.

O edrych ar y nodweddion hyn, mae'n bosibl dehongli'r gymdeithas Wayúu fel un lle ceir cydraddoldeb rhywedd. Fodd bynnag, mewn cyd-destun cymunedol cynhenid, sut y gallwn fesur cydraddoldeb rhywedd?

O ystyried hyn, nod cyffredinol yr astudiaeth hon yw deall cydraddoldeb rhywedd o safbwynt cynhenid America Ladin, gan ddadansoddi os yw’r dull hwn yn arwain at ffyrdd newydd o ddehongli sofraniaeth bwyd yn y cyd-destun hwn.