Ewch i’r prif gynnwys

Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a Chenedlaethau’r Dyfodol

Dydd Gwener, 15 Mawrth 2019
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Sut mae pobl ifanc yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn diffinio rhanbarth eu dinas? Beth maent yn ei werthfawrogi am yr ardaloedd lle maent yn byw? A pha newid yr hoffent ei weld?

Dyma rai o’r cwestiynau sydd wedi llywio ystyriaeth Lorena Axinte o Ranbarth Prifddinas Caerdydd yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). 

Yr amser cinio hwn, bydd y seminar yn dechrau â rhaglen ddogfen fer fydd yn cyflwyno ei hymchwil yn SUSPLACE Marie Curie ITN. Bydd Lorena’n cyflwyno’r data a gasglwyd ynghylch pobl ifanc (16-24 oed) er mwyn portreadu safbwyntiau a gweledigaethau amgen ar gyfer datblygiad rhanbarth y ddinas. 

Ar sail y ddau ddull creadigol a ddefnyddiwyd (gwe-fapio a Photovoice), bydd hi’n craffu ar waith ymgysylltu, o ran amser, ymdrech a deilliannau. Bydd y rhan olaf o’r seminar yn canolbwyntio ar gyfres o gyfweliadau a gynhaliwyd gydag arweinwyr allweddol rhanbarth y ddinas. Yn y cyfweliadau hyn, trafododd yr arweinwyr eu barn ynghylch ymgysylltu â phobl ifanc, yn ogystal â’r rolau maent yn eu cynllunio ar gyfer pobl ifanc.

Gweld Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a Chenedlaethau’r Dyfodol ar Google Maps
0.01
33 Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BA

Rhannwch y digwyddiad hwn