Darlith Gyhoeddus Sackler: Yr Athro Anne Lingford-Hughes ‘Yr ymennydd yn gaeth – a yw'n wahanol?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Yr Athro Anne Lingford-Hughes sy’n arwain Canolfan Bioleg Seiciatreg a Chaethiwed Coleg Imperial Llundain. Mae hefyd yn Seiciatrydd Ymgynghorol ac yn ymddiddori’n benodol mewn triniaethau ffarmacolegol ar gyfer problemau ag alcohol a dibyniaeth ar sylweddau eraill yn Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG yng Nghanol Gogledd Orllewin Llundain. Mae ei hymchwil wedi canolbwyntio ar ddefnyddio niwroddelweddu a heriau niwroffarmacolegol i nodweddu niwrofioleg caethiwed. Nod ei rhaglen ymchwil yw deall y niwrofioleg sy’n sail i’r anhwylderau hyn yn well, er mwyn gwella’r triniaethau.
Hadyn Ellis Building
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ