Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol Cofio yn yr Almaen - WEDI’I GANSLO

Dydd Iau, 4 Ebrill 2019
Calendar 17:00-18:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, mae'r digwyddiad hwn wedi'i ganslo. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.

Croeso i bawb
Dyma seminar ymchwil gyda siaradwr gwadd, Doreen Pastor (Prifysgol Bryste), sy’n rhan o thema ymchwil Gwrthdaro, Datblygu a Thrychinebau yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Crynodeb
Bydd y papur yn ystyried dyfodol safleoedd coffa yn yr Almaen ar sail ymchwil i ymwelwyr â gwersylloedd-garchar coffa Flossenbürg a Ravensbrück, Tŷ Cynhadledd Wannsee a chofadail carchardy’r Stasi, Bautzen II. Bydd y papur yn dadlau bod angen i’r arddangosfeydd yng nghofadeiliau’r gwersylloedd-garchar a Thŷ Cynhadledd Wannasee gael eu newid. Er bod y cofadeiliau’n corddi emosiynau dwys ar brydiau, roedd arwyddion o flinder ymysg yr ymwelwyr oherwydd natur ailadroddus yr arddangosfeydd, o ran y delweddau’n arbennig. Roedd naratif byd-eang Auschwitz, sydd bellach yn cynrychioli’r erchyllterau ‘go iawn’, yn cysgodi ymweliadau â chofadeiliau’r gwersylloedd-garchar yn yr Almaen.

Bywgraffiad
Ar hyn o bryd, mae Doreen Pastor (Prifysgol Bryste) yn ymchwilio i wleidyddiaeth coffáu ac ymatebion yr ymwelwyr i’r arddangosfeydd, gan ganolbwyntio ar yr Almaen yn arbennig. Mae hi wedi cynnal gwaith maes yng nghofadail gwersyll-garchar Flossenbürg, cofadail gwersyll-garchar Ravensbrück, Tŷ Cynhadledd Wannsee ym Merlin a chofadail carchardy’r Stasi, Bautzen II. Mae ganddi ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth ymarferion coffáu, treftadaeth, cof diwylliannol a datblygu twristiaeth o ran safleoedd ‘anodd’.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 21 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Dyfodol Cofio yn yr Almaen - WEDI’I GANSLO ar Google Maps
Council Chamber
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn