Ewch i’r prif gynnwys

Cystadleuaeth Three Minute Thesis (3MT®) 2019 - Rownd Caerdydd

Dydd Gwener, 29 Mawrth 2019
Calendar 13:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Three Minute Thesis (3MT®) logo

P’un a ydych yn astudio ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth, Meistr neu PhD, neu ag awydd clywed am ymchwil diddorol dros ben, mae’r gystadleuaeth Three Minute Thesis (3MT®) yn brynhawn ysbrydoledig a llawn hwyl.

Yn y gystadleuaeth, bydd myfyrwyr doethurol ar draws y Brifysgol yn cael ei herio i gyflwyno eu hymchwil mewn tair munud, gan ddefnyddio un sleid yn unig. Mae hyn yn golygu y byddwch yn clywed am ystod amrywiol o brosiectau ymchwil, pob un wedi’u crynhoi mewn tair munud. Wedi hynny, bydd panel o feirniaid yn penderfynu pwy fydd yn mynd ymlaen i’r rownd gynderfynol genedlaethol (a’r rowndiau terfynol, gyda lwc!). Gall y gynulleidfa hefyd bleidleisio dros eu hoff gystadleuydd, sef ‘Gwobr y Bobl’.

Mae’r gystadleuaeth yn cynnig cipolwg unigryw ar fyd y PhD, yn ogystal â chyfle i weld amrywiaeth eang o ddulliau cyflwyno ar waith. Hwyrach y gwelwch ambell awgrym i’w benthyg ar gyfer cyflwyniadau eich hun! Ar ôl y gystadleuaeth, cewch hefyd y cyfle i gymdeithasu gyda myfyrwyr eraill dros luniaeth. Cewch ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth ar wefan Three Minute Thesis (3MT®).