Ewch i’r prif gynnwys

Astudio

Rydym yn addysgu cenhedlaeth newydd o arweinwyr ymchwil a gweithwyr proffesiynol ym maes diogelwch, dadansoddeg a deallusrwydd artiffisial â’r sgiliau, gwybodaeth a’r hyblygrwydd i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn.

Hwb Hyfforddiant Doethurol Rhyngddisgyblaethol mewn Dadansoddeg Seibr-ddiogelwch gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol EPSRC

Nodau a meysydd ymchwil

Dadansoddeg seiberddiogelwch yw’r maes y mae’r Hyb hwn yn canolbwyntio arno – cyfuniad o ddeallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch a risg. Mae’r maes hwn yn ystyried cymwysiadau a goblygiadau technolegau newydd a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg ar draws y tri lens hwn, a hynny o safbwynt dynol yn ogystal â safbwynt algorithmig. Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, ni yw un o’r prif awdurdodau yn y maes hwn. Bydd angen i arweinwyr diwydiannol y dyfodol yn y maes hwn fod yn feirniadol ac yn arloesol wrth ddylunio systemau newydd a ysgogir gan dechnoleg, gan gynnwys cydnabod bod seiberddiogelwch a deallusrwydd artiffisial yn heriau sy’n canolbwyntio ar bobl ac nad oes modd eu creu drwy ddefnyddio technoleg yn unig. Bydd angen iddynt gael eu hyfforddi’n gynnar yn eu gyrfa i fod yn ymarferwyr myfyriol sy’n deall cyfyngiadau deallusrwydd artiffisial, heriau integreiddio moesegol i systemau cymdeithasol-dechnegol a’r ffaith bod camddefnydd yn bosibl.

Mae ein rhaglen unigryw yn arfer ymagwedd gyfannol at hyfforddiant sy’n ceisio datblygu arweinwyr y dyfodol a all gyfleu (a thrafod) y ffyrdd gorau o fynd i’r afael â heriau cyfuno seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial a risg er budd cenedlaethau’r dyfodol. Heb amgylchedd hyfforddi ar sail carfan, rydym yn dadlau y bydd arweinwyr y dyfodol yn colli cyfleoedd i gyd-greu byd sydd â dealltwriaeth ryngddisgyblaethol lawer cyfoethocach o ddeallusrwydd artiffisial a bygythiadau seiber, o safbwynt dynol a safbwynt systemau. Byddai hyn yn arwain at dechnolegau newydd sy’n cynnwys gwendidau cynhenid y gellir eu hecsbloetio a fydd yn cael effaith waeth wrth i ni ddod yn fwy dibynnol ar systemau awtonomaidd rhyng-gysylltiedig. Mae cyd-greu ymchwil newydd mewn modd rhyngddisgyblaethol, sy’n arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â’r pynciau hyn, wrth wraidd nodau ymchwil yr hyb.

Rydym yn disgwyl i’n graddedigion gael swyddi ar draws ystod o sectorau lle mae seiberddiogelwch ar gyfer technolegau newydd fel deallusrwydd artiffisial yn hanfodol. Ymhlith y rolau disgwyliedig mae:

  • cyfarwyddwyr ymchwil strategol
  • ymarferwyr cyfreithiol a llywodraethu
  • swyddogion polisi cymdeithasol
  • datblygwyr technoleg
  • gwyddonwyr data
  • arbenigwyr ffactorau dynol.

Dim ond ychydig o rolau yw'r rhain o nifer cynyddol o feysydd lle mae datblygu technolegau newydd yn hanfodol.

Amgylchedd ymchwil a’r rhaglen hyfforddi

Rydym yn cynnig PhDs a gaiff eu hariannu’n llawn a’u goruchwylio ar draws tair Ysgol wahanol yn y Brifysgol:

  • Cyfrifiadureg a Gwybodeg
  • Seicoleg
  • Y Gwyddorau Cymdeithasol.

Cyflwynir thema greiddiol Dadansoddeg Seiberddiogelwch drwy ddau lwybr sy’n seiliedig ar wybodaeth a sgiliau trawsbynciol:

  • Defnyddiau buddiol a chynghorol o ddeallusrwydd artiffisial ym maes Seiberddiogelwch. Hwn yw’r llwybr deallusrwydd artiffisial sy’n canolbwyntio fwyaf ar algorithmau a gwyddoniaeth ddata.
  • Ffactorau Dynol mewn technoleg newydd ac astudiaethau o gymhelliant dros Seiberdroseddu. Mae’r llwybr hwn yn seiliedig ar Ffactorau Dynol, Seicoleg Wybyddol, Niwrowyddoniaeth, Cyfrifiadureg, Troseddeg a Chymdeithaseg.

Mae’r llwybrau’n cyd-fynd â set wreiddiol o anghenion hyfforddiant a bennir ar y cyd â thîm academaidd a phartneriaid allanol drwy ymgysylltu’n rheolaidd drwy raglenni cydweithredol presennol, digwyddiadau cyfnewid syniadau a grwpiau cynghorol. Mae gennym enw am ragoriaeth ei hymchwil yn y meysydd hyn, ac mae’r llwybrau’n gweithredu fel mecanwaith i orgyffwrdd cymaint â phosibl ar draws disgyblaethau a datblygu ffocws clir ar gyfer yr heriau ymchwil i fynd i’r afael â nhw yn yr hyb, sy’n gysylltiedig â gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer ei strategaeth ddiwydiannol. Bydd yr holl fyfyrwyr yn cael goruchwylydd o’r ddau lwybr i ddylunio heriau rhyngddisgyblaethol a thrawsbynciol a datblygu meddyliau.

Pam astudio dadansoddeg seiberddiogelwch gyda ni?

Cydnabyddiaeth gan y llywodraeth a'r diwydiant am ragoriaeth ymchwil

Rydym yn cael ein cydnabod gan EPSRC a NCSC fel Canolfan Academaidd o Ragoriaeth Ymchwil Seiberddiogelwch (ACE-CSR). Rydym yn un o ddim ond 19 o ACE-CSRs yn y DU ac fe’u hystyrir yn brif sefydliad ar gyfer dadansoddeg seibr-ddiogelwch. Mae'r ffaith mai ni yw’r unig Ganolfan Ragoriaeth mewn Dadansoddeg Seibr-ddiogelwch yn y byd ym marn Airbus yn tystiolaethu i hyn. Mae ein hacademyddion yn ymwneud â rhaglenni ymchwilio a datblygu mewnol sylweddol gydag Airbus, sy’n arwain deallusrwydd artiffisial ar gyfer rhaglenni technegol seibr-ddiogelwch a rhaglenni seicoleg ffactorau dynol yn Swyddfa Trawsffurfio Digidol Airbus ac felly'n sbarduno diwydiant i ymgymryd â’r cysyniadau cyfunedig hyn. Ystyrir yr agweddau cymdeithasol a thechnegol yn gyfartal yn yr hyb.

Cyfleusterau rhagorol

Rydym wedi buddsoddi cyllid sylweddol mewn seilwaith ymchwil ar gyfer y pwnc hwn, gan gynnwys ystod seiber flaenllaw a labordy ymosod ac amddiffyn seiber ymdrwythol a rennir ar draws yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a’r Ysgol Seicoleg. Mae'r cyfleusterau yn y ddau labordy yn sail i ymchwil arbrofol ar gyfer agweddau dynol a thechnegol ar seiberddiogelwch a datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ar sail tystiolaeth o fygythiadau seiber y genhedlaeth nesaf gan gynnwys:

  • profi gwendid amrywiaeth o seilweithiau rhithwir mawr y genhedlaeth nesaf drwy hela bygythiadau i nodi ble y gallai ymosodiadau seiber effeithio arnynt
  • pennu'r dulliau gorau posibl ar gyfer sicrhau diogelwch drwy ddyluniad - h.y. sicrhau bod y bygythiadau yn cael eu lliniaru cyn i'r amgylchedd digidol gael ei gyflwyno yn y byd go iawn
  • datblygu a phrofi atebion awtomataidd newydd ar gyfer ymosodiadau seiber a seiber-amddiffyn
  • hyfforddiant a datblygu sgiliau mewn perthynas â dulliau technegol o fynd i’r afael ag ymosodiadau seiber a seiber-amddiffyn, a ffactorau dynol sy'n ymwneud â thueddiad i ddioddef ymosodiadau a chyfathrebu/gwneud penderfyniadau mewn ymateb i ysgogiadau ymosod a seiber-ddeallusrwydd dan straen wrth wynebu ymosodiad.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Arweinydd Academaidd yr Hyb, yr Athro Pete Burnap.

Rhaglenni

Mae ein rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig yn rhoi’r cyfle i chi ymwneud ag amgylchedd dynamig, amlddisgyblaethol sydd â datblygiadau enfawr o ran theori ac ymarfer seiberddiogelwch, gwyddorau data, dadansoddeg a deallusrwydd artiffisial yn sail iddo.

Israddedig

Ôl-raddedig a addysgir

Enw’r raddModd
MSc Deallusrwydd ArtiffisialAmser llawn
MSc SeiberddiogelwchAmser llawn / rhan-amser ar gael
MSc Gwyddorau Data a DadansoddegAmser llawn / rhan-amser ar gael

Ymchwil ôl-raddedig

Mae gennym gyfleoedd ymchwil ôl-raddedig ar gael mewn nifer o feysydd ar gyfer myfyrwyr amser llawn a rhan-amser.

Cyllid ac ysgoloriaethau

Bob blwyddyn rydym yn darparu nifer fach o ysgoloriaethau ac ysgoloriaethau ymchwil i fyfyrwyr rhagorol i gefnogi eu hymchwil. Rydym hefyd yn cynnal nifer sylweddol o fyfyrwyr a noddir a myfyrwyr sy’n ariannu eu hunain.

Arian gan Lywodraeth y DU i ôl-raddedigion ar gyfer graddau meistr
Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr
Ysgoloriaeth PhD wedi'i hariannu

Mae rhagor o opsiynau ariannu ar gael.