Ewch i’r prif gynnwys

Pobl

Mae gennym dîm rhyngddisgyblaethol sefydledig sydd â chyfoeth o ragoriaeth ymchwil mewn seiberddiogelwch.

Mae ein tîm yn cynnwys academyddion, ymchwilwyr ôl-ddoethurol a myfyrwyr ôl-raddedig o'r Ysgolion Cyfrifiadureg a Gwybodeg, Seicoleg, Gwyddorau Cymdeithasol a'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Rydym yn cynnig dull cyfannol, integredig a damcaniaethol o ymdrin â seiberddiogelwch sy’n gysylltiedig â phobl a thechnoleg gan ddefnyddio gwyddorau data, deallusrwydd artiffisial a dulliau ystadegol arloesol.

Ein prif nod yw parhau i ddatblygu'r gallu arweiniol hwn i gefnogi arloesedd, penderfyniadau, a gwaith llunio pholisïau sy’n gysylltiedig â seiberddiogelwch o bwysigrwydd cenedlaethol.