Ewch i’r prif gynnwys

Proteinau a diagnosteg

Mae gan ein cyfleuster proteinau a diagnosteg gyfarpar i werthuso moleciwlau mewn samplau biolegol, ac i astudio rhyngweithio proteinau a ligandau â’i gilydd.

Proteins and diagnostics
Paratoi plât.

Mae ein tîm hynod fedrus yma i gynnig gwasanaeth wedi’i reoli’n llawn i chi neu gyngor ar ddefnyddio ein hystod o gyfleusterau, gan gynnwys:

  • dadansoddi protein neu broteomig
  • defnyddio qPCR a cytometreg llif i gyflawni profion clinigol at safonau GCLP

Delweddwr imiwnobrawf electrogemegol (Llwyfan MSD®)

  • MESO QuickPlex SQ 120
  • Prawf ymoleuedd electrogemegol mewn fformat 96 neu 384 pant er mwyn hwyluso canfod bio-nodau mewn fformat sengl neu amrywiol
  • Cyfaint sampl bychan
  • Mae’r profion sydd ar gael yn cynnwys cytokinau a chemokinau, signalau celloedd a llawer o brosesau ac afiechydon biolegol eraill allweddol
  • Gellir datblygu profion wedi’u teilwra
  • Gwasanaeth technegol llawn ar gyfer cynnal ELISAs

Biacore

  • Biacore T200
  • Technoleg biosynhwyrydd di-label ar gyfer dadansoddi rhyngweithio macrofolecwlaidd
  • Arbenigedd lefel uchel, yn arbennig ar gyfer cymwysiadau sy’n ymwneud â rhyngweithio proteinau â‘i gilydd

Proteinau

  • Mynediad i dechnolegau proteomeg (Prifysgol Bryste)

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ni gefnogi eich gwaith ymchwil:

Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog

Cwsmeriaid presennol

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar ein system archebu cyfarpar, mewngofnodwch i archebu.

Archebu