Dadansoddi a delweddu celloedd
Mae staff ein cyfleusterau dadansoddi a delweddu celloedd yn arbenigwyr ym meysydd cytometreg llif, didoli celloedd a microsgopeg electronau a golau.

P’un a ydych chi’n ddefnyddiwr profiadol neu’n defnyddio’r cyfleusterau hyn am y tro cyntaf, mae ein tîm ni yma i gynnig gwasanaeth cynhwysfawr i chi, er mwyn sicrhau canlyniadau o’r safon uchaf i’ch prosiect.
Gallwn ni ddarparu gwasanaeth wedi’i reoli’n llawn, cyngor ar ddyluniadau arbrofol, neu’n syml fynediad i’n cyfleusterau.
Cytometreg llif a didoli celloedd
- Offer cytometreg llif pen mainc lluosog: Dwy system BD FACSCanto II (8 lliw), ThermoFisher Attune NxT (11 lliw) a dadansoddwr celloedd BD LSR Fortessa cell (16 lliw)
- BD FACSAria III (11 lliw) ar gyfer didoli celloedd digidol cyflymdra uchel i diwbiau (4 ffordd), platiau (6, 24, 48, 96 a 384 ffynnon) neu ar sleidiau meicrosgop
- Amnis ImageStream X Mark II (hyd at 12 sianel)
Microsgopeg electron a goleuni
- Sganio dadansoddol a throsglwyddiad EM
- Sychu pwynt critigol a chaeniad ffrwtian
- Ynysu a nodweddu nano-ronynnau
- Datblygiad methodolegol gydag arbenigedd nodedig mewn prosesu meinwe unigryw
- JOEL 840A SEM a mynediad i FE1 CM12 TEM
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ni gefnogi eich gwaith ymchwil:
Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog
Cwsmeriaid presennol
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar ein system archebu cyfarpar, mewngofnodwch i archebu.