Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau

Rydym ni’n croesawu cwsmeriaid o bob rhan o’r gymuned ymchwil, gan gynnwys busnesau a phrifysgolion.

Mae ein tîm o arbenigwyr gwyddonol a thechnolegol yn gweithio ochr yn ochr â’n cyfleusterau i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr sy’n cynnwys:

  • cyngor ar ddyluniadau arbrofol
  • paratoi samplau
  • cynhyrchu data
  • dadansoddi data
Cell analysis and imaging

Dadansoddi a delweddu celloedd

Mae staff ein cyfleusterau dadansoddi a delweddu celloedd yn arbenigwyr ym meysydd cytometreg llif, didoli celloedd a microsgopeg electronau.

Genomics and bioinformatics

Genomeg a biowybodeg

Mae ein tîm genomeg a biowybodeg yn gallu cynnig popeth o wasanaeth genomeg a reolir yn llawn i gyngor ynghylch dewis technoleg, paratoi samplau neu asesu ansawdd samplau.

Proteins and diagnostics

Proteinau a diagnosteg

Mae gan ein cyfleuster proteinau a diagnosteg gyfarpar i werthuso moleciwlau mewn samplau biolegol, ac i astudio rhyngweithio proteinau a ligandau.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ni gefnogi eich gwaith ymchwil:

Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog

Cwsmeriaid presennol

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar ein system archebu cyfarpar, mewngofnodwch i archebu.

Archebu